Mae un o gyfarwyddwyr  cwmni technoleg uwch ym Mangor yn pryderu fod  ei gwmni dan anfantais i ddenu gweithwyr o weddill Ewrop yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y Dr Ayad Abdul Mawla sy’n rhedeg cwmni technoleg ym Mharc Menai, mae’r bleidlais yn glec o ran gallu denu gweithwyr o wahanol rannau o Ewrop.

“Rydan ni’n cyflogi nifer o weithwyr technoleg gwybodaeth o wahanol rannau o Ewrop i ddarparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid yng ngwledydd Prydain,” meddai, “a’n pryder ni ydi bod hynny’n rhwystr inni ddenu talent i mewn yn y dyfodol dan Brexit.”

Cystadleuaeth 

Mae’n dadlau fod meithrin gweithlu lleol yn bwysig hefyd, ond bod y gystadleuaeth o fannau eraill yn gryf, gyda phobol gymwys yn aml yn cael eu denu gan swyddi yn ninasoedd Lloegr, yn enwedig Llundain.

“Wrth inni fynd fwyfwy i fyd rhithol a gwasanaethau cwmwl, sydd ddim yn cydnabod ffiniau geo-wleidyddol, mae’n hanfodol fod cwmniau ynghyd â gwledydd yn cael mynediad i’r gorau sydd gyda’r sgiliau iawn er mwyn bod yn gystadleuol,” meddai Ayad Abdul Mawla wrth golwg360.

“Mae mynediad i’r Farchnad Sengl yn hanfodol o’r herwydd. “

Effaith

O ran effaith gyffredinol y bleidlais dros Brexit,  mae Dr Ayad Abdul Mawla yn teimlo fod hi’n rhy fuan i ddirnad effaith Brexit i’w gwmni.

“Dydan ni ddim mewn sefyllfa i ddweud os ydi Brexit wedi effeithio ar ein busnes, gan fod ganddon ni gylch busnes hir dymor… ond mi fydd yna effaith o ran recriwtio staff.”