Ken Skates, yn addo cefnogi gweithwyr Pen-y-bont
Mae Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros yr Economi wedi addo y bydd yn gwneud “popeth o fewn ei allu” i ddiogelu dyfodol ffatri geir Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Wrth i undebau llafur fynegi pryder bod y cwmni’n haneru ei fuddsoddiad yn y safle – £100m yn hytrach na’r £180m yr addawyd y llynedd – mae Ken Skates yn dweud bod y cwmni wedi rhoi sicrwydd na fydd gweithwyr Pen-y-bont yn cael eu heffeithio.

“Mae’r diwydiant ceir yn allweddol i Gymru, yn werth £3.2bn ac yn cyflogi 18,000 o bobol,” meddai Ken Skates. “Mae’n ddiwydiant y byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w gefnogi.

“Rydw i’n croesawu’r datganiad gan Ford yn ein sicrhau na fydd y newidiadau i’r drefn weithio ym Mhen-y-b0nt yn effeithio ar nifer y gweithlu yn y tymor byr, ond rydw i hefyd yn cydnabod ofnau’r gweithwyr a’r undebau.”

Gwneud llai o beiriannau

Mae datganiad diweddara’ Ford yn dweud y bydd yn cynhyrchu llai o’r injanau ‘Dragon’ oherwydd bod llai o geir yn cael eu gwerthu. Er hynny, petai’r galw ar draws y byd am y peiriant yn cynyddu, fe allai’r ffatri ym Mhen-y-bont, a’i gweithwyr sgilgar, ymateb i’r cynnydd yn y galw.

“Mae’n werth nodi mai’r rheswm pam mae’r galw am yr injan Dragon wedi lleihau ar draws y byd, ydi llwyddiant yr injan ‘Eco-Boost’ sydd, hefyd, yn cael ei chynhyrchu ym Mhen-y-bont,” meddai Ken Skates.

“Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda rheolwyr cwmni Ford Europe a’r undebau ym Mhen-y-bont er mwyn ceisio deall y datblygiadau diweddara’, ac fe fyddwn ni hefyd yn parhau i wneud cymaint ag y gallwn ni i gefnogi’r gweithlu.”