(llun: Sefan Rousseau/PA
Mae siop BHS Abertawe, yr unig un a oedd ar ôl yng Nghymru, ymhlith y 22 o siopau olaf y cwmni sy’n cau heddiw.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae 141 o siopau’r cwmni ledled Prydain wedi cau, gan gynnwys eu prif siop yn Oxford Street, Llundain.
Mae diflaniad BHS yn ddiwedd ar 88 mlynedd o bresenoldeb siopau’r cwmni ar stryd fawr trefi a dinasoedd Prydain.
Mae methdaliad y cwmni ym mis Ebrill wedi dinistrio 11,000 o swyddi ac effeithio ar 22,000 o bensiynau. Mae hefyd wedi arwain at ymchwiliad seneddol a’r posibilrwydd o ymchwiliad troseddol i’w gyn-berchnogion.
Mae’r biliwnydd Syr Philip Green, a fu’n berchen BHS am 15 mlynedd cyn ei werthu i’r methdalwr Dominic Chappell am £1 y llynedd, wedi cael ei gollfarnu fel “wyneb annerbyniol cyfalafiaeth” gan Aelodau Seneddol.
Roedd Philip Green wedi cymryd dros £400 miliwn mewn taliadau difidend gan y cwmni, a’i adael mewn dyled pensiynau o £571 miliwn cyn ei werthu i ddyn heb unrhyw brofiad o redeg siopau.