Bysiau Lewis (Llun o'u gwefan)
Fe fydd cwmni bysiau o Geredigion yn cau ei ddrysau am y tro olaf heddiw ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan roi 40 o swyddi mewn perygl.

Wrth i Lewis Coaches o Lanrhystud fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, fe fydd Cyngor Ceredigion yn ceisio cynnal y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar ran y Cyngor.

Er hynny, mae’r gwasanaeth 701, rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, sy’n boblogaidd ymysg myfyrwyr, yn dod i ben heddiw, gyda dim sôn am gwmni arall yn dod yn lle Lewis Coaches.

“Mae ystod o fesurau yn cael eu trefnu i rannu gwybodaeth a mae swyddogion (y Cyngor) yn trafod gyda Traveline Cymru er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael i’r cyhoedd,” medden nhw mewn datganiad.

Manylion rhai gwasanaethau

Fe fydd trefniadau tymor byr o ddydd Sadwrn ymlaen ar wasanaeth Bwcasbus, Bws 4 a gwasanaeth 588 rhwng Aberystwyth, Llangwyryfon, Tregaron, Llangybi a Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r Cyngor yn ceisio dod o hyd i ddarparwyr eraill ar gyfer y gwasanaeth 585 hefyd, rhwng Aberystwyth, Llanilar, Tregaron, Cellan a Llanbed.

Fydd ddim newidiadau yn amserlenni’r gwasanaethau hyn am y tro, yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion.

Tymor hir

Fe ddywedodd llefarydd y Cyngor y bydd y goblygiadau a’r ymateb tymor hir yn “cael eu hystyried maes o law.”