Mae cynlluniau wedi eu datgelu heddiw gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i “wella byd bancio am flynyddoedd i ddod,” drwy gyfres o welliannau i fancio digidol.

Fe wnaeth y CMA gynnal ymchwil am ddwy flynedd i dueddiadau bancio ym Mhrydain, ac mae eu hadroddiad terfynol heddiw yn amlygu gwelliannau i wella profiad y cwsmer wrth chwilio am gytundebau gwell ynghyd â hybu banciau newydd a llai i dyfu.

Mae’r cynlluniau hefyd yn galw ar fanciau i gyhoeddi manylion am ansawdd eu gwasanaethau ar-lein ac yn eu canghennau.

‘Arloesedd a chystadleuaeth’

Mae’r adroddiad yn cyflwyno mesurau i helpu pobol reoli eu cyfrifon yn well gan ddarparwyr gwahanol, drwy ddefnyddio un ap digidol.

Bydd hyn yn galluogi cwsmeriaid i fod â mwy o reolaeth dros eu cyllid, llif eu harian, osgoi costau gorddrafft, cymharu cytundebau a symud eu harian yn haws rhwng cyfrifon.

Bydd disgwyl i’r banciau ymateb i’r mesur o “fancio agored” gan y CMA erbyn dechrau 2018.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd cadeirydd y CMA, Alasdair Smith, “rydym yn torri’r rhwystrau sydd wedi’u gwneud hi’n rhy hawdd i fanciau sefydledig gadw eu cwsmeriaid. Bydd ein diwygiadau yn cynyddu arloesedd a chystadleuaeth mewn sector lle mae ei berfformiad yn hollbwysig i economi’r Deyrnas Unedig.”