Llun: PA
Mae ITV yn bwriadu torri £25m o’i gostau’r flwyddyn nesaf  o ganlyniad i’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed y darlledwr bod “cynlluniau cadarn” mewn lle i gwrdd â’r heriau yn sgil Brexit.

Dywedodd y prif weithredwr Adam Crozier: “Yn sgil ansicrwydd economaidd ehangach yn dilyn refferendwm yr UE rydym wedi rhoi cynllun cadarn mewn lle i’n caniatáu i fwrdd a’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.

“Fel rhan o hyn rydym yn targedu gostyngiad o £25 miliwn yn ein costau ar gyfer 2017”.

Daeth cyhoeddiad ITV wrth i’r darlledwr gyhoeddi canlyniadau ar gyfer chwe mis cynta’r flwyddyn sy’n dangos bod cyfanswm ei refeniw wedi cynyddu 11% i £1.5 biliwn.

Roedd elw cyn treth wedi cynyddu 9% i £425 miliwn ond mae ITV wedi rhybuddio bod disgwyl i’w refeniw o hysbysebion ostwng 1% yn y naw mis hyd at ddiwedd mis Medi.