Wylfa Newydd (Llun: Horizon)
Bydd ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn yn cael ei lansio fis nesaf.

Dywedodd Horizon Nuclear Power y byddai’r ymgynghoriad yn “garreg filltir bwysig” i’r prosiect a bydd pobol leol yn cael cyfle i weld cynlluniau newydd ar gyfer gorsaf bŵer Wylfa Newydd am ddau fis o Awst 31 ymlaen.

Hwn fydd yr ymgynghoriad swyddogol olaf ar y prosiect yn ei gyfanrwydd cyn i Horizon gyflwyno ei gais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn 2017.

Mae’n debyg y byddai’r safle newydd yn darparu pŵer i tua phum miliwn o gartrefi ond does dim sicrwydd y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen eto ac mae pryderon am y gost.

Hinkley C

Yn ogystal, bydd penderfyniad allweddol yn cael ei wneud yr wythnos nesaf o ran dyfodol Wylfa wrth i’r cwmni Ffrengig EDF benderfynu a fyddan nhw’n bwrw ymlaen gyda gorsaf niwclear Hinkley C yng Ngwlad yr Haf.

Pe baen nhw’n tynnu’n ôl, fe fyddai hynny’n codi mwy o amheuon fyth am y tebygrwydd o atomfa newydd yn Wylfa hefyd.

‘Ystod eang o gyfleoedd’

Dywedodd Carl Devlin, cyfarwyddwr y rhaglen yn Horizon: “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ystod eang o gyfleoedd ar Ynys Môn fel rhan o Brosiect Wylfa Newydd – o addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, i gytundebau i fusnesau a chymorth ar gyfer yr iaith Gymraeg, diwylliant a mentrau cymunedol lleol.

“Byddwn yn rhannu mwy o fanylion yn ystod ein hymgynghoriad, sy’n parhau ar y gwaith yr ydym eisoes wedi bod yn gwneud yn lleol.”