Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn dadlau y gallai Cymru elwa o 49,530 o swyddi newydd petai’r Deyrnas Unedig yn pleidleisio i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ymhen deuddydd.

Daw eu sylwadau o ffigurau Trysorlys Ei Mawrhydi, ac maent yn ychwanegu fod aelodaeth Prydain o’r UE wedi cefnogi swyddi newydd yng Nghymru am fwy na deugain mlynedd.

 

Maen nhw hefyd yn amlinellu fod 100,000 o swyddi presennol Cymru yn gysylltiedig ac felly’n elwa o’r allforion i’r Farchnad Sengl, gan gynnwys swyddi gweithgynhyrchu, manwerthu, busnes a bancio.

‘Sioc economaidd’

 

“Mae bron pob economegydd yn cytuno y byddai gadael yr UE yn debygol o achosi sioc economaidd gan niweidio gobeithion Cymru,” meddai Michael Plaut Cadeirydd CBI Cymru.

 

“Mae rhai o’n sectorau allweddol sydd wrth galon ein cymunedau ar draws y rhanbarth, o weithgynhyrchu i fanwerthu, yn dibynnu ar ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl,” ychwanegodd.

“Nid yn unig y bydden ni’n niweidio beth sydd gennym nawr [wrth adael], ond byddem hefyd yn colli allan ar filoedd o swyddi yn y dyfodol agos o ganlyniad i golli mynediad at y Farchnad Sengl.”

“Dyna pam mae mwyafrif o fusnesau am i’r DU barhau’n rhan o’r UE, i hybu twf economaidd, cefnogi a chreu swyddi, a chynyddu’r ffyniant i’n rhanbarth,” meddai Michael Plaut.