Mae pennaeth newydd Marks & Spencer wedi addo torri prisiau a rhoi mwy o staff yn ei siopau i wella adran werthu dillad y cwmni, gan rybuddio y bydd elw’r cwmni yn dioddef.
Mae Steve Rowe, wnaeth olynu Marc Bolland ym mis Ebrill, wedi cyhoeddi ei gynlluniau i drawsnewid y busnes wrth i’r grŵp gyhoeddi cynnydd o 4.3% yn ei elw cyn treth i £689.6m am 53 wythnos hyd at 2 Ebrill.
Ond bydd ailwampio, yn ogystal ag amodau heriol ar y stryd fawr yn cael “effaith niweidiol ar elw yn y tymor byr”, meddai’r cwmni.
Cyhoeddodd M&S hefyd y bydd ei gynllun pensiwn cyflog terfynol yn dod i ben i’w 11,000 o staff sy’n rhan ohono.
Ond dywedodd y grŵp, sy’n cyflogi 70,000 o staff yn ei siopau, y byddai’n cynyddu cyflogau yn dilyn cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol, i £8.50 yr awr i aelodau staff siop y tu allan i Lundain.
Mae disgwyl y bydd codiad cyflog i reolwyr yn dod o fis Ebrill nesaf ymlaen.
Mae gan y cwmni gynlluniau i ganolbwyntio ar greu dillad cyffredin â steil i ddenu ei gwsmeriaid yn ôl, a bydd yn lleihau nifer yr eitemau yn ei ddillad ar gyfer yr hydref a’r gaeaf.
A bydd rhagor o staff mewn siopau, yn enwedig mewn caffis ac ystafelloedd newid i wella ei wasanaeth i gwsmeriaid.
Yn dilyn gostyngiad o 2.7% yn ei werthiant yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol, cyfaddefodd y busnes na fydd ailwampio’r adran ddillad yn “digwydd dros nos”.
Denu “Mrs M&S” yn ôl
“Roedd ein canlyniadau’r llynedd yn gymysg. Roeddwn wedi parhau i wneud yn well yn ein busnes bwyd ond fe wnaethom dangyflawni ar ein gwerthiant dillad a chartref,” meddai Steve Rowe.
Fe wnaeth cyfrannau’r cwmni gwympo bron i 7% yn dilyn y rhagolygon gwael i elw’r cwmni, a daflodd gysgod dros yr ail gynnydd blynyddol yn yr elw cyffredinol.
Ychwanegodd Steve Rowe fod angen i’r grŵp ddenu “Mrs M&S” yn ôl, gan gyfeirio at gwsmeriaid benywaidd dros 50 oed, sydd wedi cael eu “anghofio” gan y cwmni, meddai.