Llun: O wefan Ryanair
Mae cwmni hedfan Ryanair wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri costau teithio o 7% eleni, a hynny wedi iddyn nhw weld cynnydd yn eu helw.

Mae’r cwmni, sydd wedi’i lleoli yn Nulyn, yn bwriadu cwtogi eu prisiau er mwyn cynnal cyfran o farchnad y diwydiant hedfan Ewropeaidd sydd wedi’u taro’n ddiweddar gan ymosodiadau brawychol ym Mrwsel a Pharis.

Yn ogystal, fe allai trychineb yr awyren EgyptAir leihau awydd pobl i deithio’n rhyngwladol dros y misoedd nesaf.

Er hyn, fe wnaeth Ryanair 43% o elw o gymharu â’r flwyddyn cynt, er bod mwy na 500 o deithiau wedi’u gohirio am resymau’n ymwneud â’r ymosodiadau ym Mrwsel ym mis Mawrth a chyfres o streiciau rheoli traffig awyr yn Ffrainc.

‘Twf economaidd’

Mae’r cwmni hefyd yn rhagweld y gallai streiciau rheoli traffig awyr gan yr Eidal, Gwlad Groeg, Gwlad Belg a Ffrainc effeithio ar eu teithiau yn y dyfodol.

Yn ogystal, maen nhw’n rhybuddio am effaith y bunt wannach yn y cyfnod yn arwain at refferendwm y Deyrnas Unedig i benderfynu a fydd Prydain yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar Fehefin 23.

Mae’r cwmni wedi datgan eu cefnogaeth i’r Deyrnas Unedig barhau’n rhan o’r UE gan ddweud: “Os byddai’r DU yn gadael yr UE, dy’n ni’n credu y byddai hyn yn niweidio twf economaidd a hyder cwsmeriaid yn y DU am y ddwy i dair blynedd nesaf wrth i’r trafodaethau am adael ac ailymgeisio am y farchnad sengl ddigwydd mewn amodau marchnad ansicr.”

Fis diwethaf, fe wnaeth cwmni hedfan arall, sef easyJet, gyhoeddi eu bod wedi gwneud colled, gan ddweud fod yr ymosodiadau brawychol yn golygu bod rhai teithwyr yn cadw draw a’r gystadleuaeth wedi cynyddu rhwng cwmnïau.