Fe fydd Npower yn cael gwared a 2,400 o swyddi ar ôl cyhoeddi colledion o fwy na £100 miliwn.

Dywedodd y cwmni ynni y byddai’n rhaid gwneud “arbedion sylweddol” yn sgil y colledion a wnaed yn 2015.

Mae’r cwmni, sy’n berchen i’r grwp ynni RWE o’r Almaen, yn cyflogi 11,500 ac mae wedi dweud y bydd yn cael gwared a 2,400 o staff sy’n  gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i npower erbyn 2018.

Dywed y cwmni y bydd yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda’i staff a’r undebau ynglŷn â’i gynlluniau dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer dyfodol y busnes.

Mae’r canlyniadau yn “hynod siomedig” meddai prif weithredwr RWE npower Paul Coffey, gan ddweud bod y busnes wedi “ceisio gwneud gormod, yn rhy fuan.”

Datgelodd y cwmni ei fod wedi colli mwy na 350,000 o gwsmeriaid y llynedd ar ôl blwyddyn “hynod o anodd” yn sgil colledion ariannol a methiannau yn ei wasanaeth i gwsmeriaid.

Cafodd ddirwy o £26 miliwn gan reoleiddiwr y diwydiant Ofgem ym mis Rhagfyr yn dilyn problemau gyda’r system biliau a delio gyda chwynion.