Maes Awyr Caerdydd (llun: CC2.0/M J Richardson)
Roedd y pris a dalodd Llywodraeth Cymru am Faes Awyr Caerdydd bron i ddwbl gwerth y safle, yn ôl adroddiad sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw.

Cafodd y maes awyr ei brynu am £52m, er bod cwmni cyfrifo KPMG wedi rhoi cyngor i’r llywodraeth mai gwerth y safle ar y farchnad fyddai rhwng £20m a £30m.

Ond roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried y pris hwn yn ‘rhy geidwadol’, meddai’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Fe wnaeth swyddogion ystyried bod yr amcangyfrif o werth y Maes Awyr i’r cyhoedd, sef £472miliwn, hefyd yn cyfiawnhau’r pris a dalwyd.

Grŵp Abertis Infraestructuras SA o Sbaen oedd yn berchen ar y Maes Awyr tan i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2013.

‘Gwendidau’ y Llywodraeth

Nododd y gwaith ymchwil hefyd wendidau yn y ffordd roedd y llywodraeth wedi paratoi’r achos busnes dros ei brynu, gan ddweud nad oedd wedi ‘gosod ei hamcanion buddsoddi yn ddigon eglur’.

Daeth at y casgliad bod Llywodraeth Cymru ‘wedi sefydlu trefniadau llywodraethu cadarn’ dros reoli ei buddsoddiad ond ‘nad oes cynllun ffurfiol ar gyfer gwireddu manteision ehangach’ o brynu’r Maes Awyr.

Mae saith argymhelliad yn cael ei wneud yn yr adroddiad, sy’n cynnwys gwella’r berthynas rhwng cwmni dal Llywodraeth Cymru, Holdco a’r cwmni sy’n gweithredu’r Maes Awyr, CIAL, a’r gwaith o greu strategaeth hir dymor ar gyfer datblygu’r Maes Awyr.

“Mae trawsffurfio’r Maes Awyr wedi bod yn fwy heriol nag yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ar adeg y caffaeliad, er y bu rhai datblygiadau cadarnhaol,” meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

“Mae’r Maes Awyr yn gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol iawn, ac yn dod o sylfaen etifeddol isel.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio canfyddiadau’r adroddiad annibynnol y mae wedi’i gomisiynu’n ddiweddar er mwyn sefydlu dealltwriaeth eglur o iechyd ariannol cyffredinol y Maes Awyr ac o unrhyw ofynion ariannol sy’n debygol yn y dyfodol.”

Gobeithion ‘heb eu gwireddu’

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad nad yw gobeithion y llywodraeth o berfformiad masnachol Maes Awyr Caerdydd wedi ‘cael eu gwireddu’ eto.

“Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch y pris a dalwyd am y maes awyr, y rhagolygon twf tymor hir, ac ynghylch unrhyw elw ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru os bydd yn penderfynu gwerthu ei chyfran gyfan yn y maes awyr, neu ran ohoni, yn y dyfodol,” meddai’r AC Ceidwadol Darren Millar.

“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cymryd tystiolaeth ynghylch adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol dros y pythefnos nesaf.”

‘Hollol gamarweiniol’

Mynnodd Llywodraeth Cymru fodd bynnag bod rhai adroddiadau yn y wasg wedi “cymryd set unigol o ffigyrau i awgrymu’n anghywir bod Llywodraeth Cymru wedi talu mwy nag oedd angen i gaffael y maes awyr.”

“Mae hyn yn ddethol iawn ac yn hollol gamarweiniol,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

“Roedd KPMG wedi modelu amrywiaeth o sefyllfaoedd yn ystod y broses. Roedd y prisiadau yn amrywio yn dibynnu ar y gost o gyfalaf a roddwyd i’r cyfrifon.”

Dywedodd fod y llywodraeth wedi cael cyngor proffesiynol pellach o gwmni Arup, gan ddod at y casgliad bod pris o tua £55m yn rhesymol o safbwynt masnachol.

“Roedd y pris asedau i’r cyhoedd o £472m hefyd yn cyfiawnhau’r pris a dalwyd,” meddai.

“Nid ydym yn disgwyl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ein herio ar hyn pan gaiff (yr adroddiad) ei gyhoeddi.”