O wefan Right Move
Roedd rhenti tai preifat yng Nghymru wedi gostwng o 1% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, yn ôl gwerthwyr tai.

Roedd hynny’n groes i’r duedd ar draws gwledydd Prydain lle’r oedd rhenti ar gyfartaledd wedi codi – yn Lloegr o 3.4%, gyda’r cynnydd mwya’ yn y Dwyrain.

Cyfartaledd rhent misol yng Nghymru erbyn diwedd 2015 oedd £560 o gymharu â £794 yn Lloegr.

‘Tenantiaid yn diodde’

“Tŷ yw’r gost fwya’ yng nghyllideb teuluoedd,” meddai  Adrian Gill, cyfarwyddwr yr Indecs Reeds Rains a Your Move, gan ddweud bod pobol sy’n rhentu’n diodde’ mwy na pherchnogion ar hyn o byd.

“I berchnogion cartrefi, mae cyfradd llog isel yn cynnig byffer mewn amseroedd economaidd anodd, ond dyw tenantiaid ddim yn cael yr un fantais.”

Mae’r Indecs yn seiliedig ar rhenti ar gyfer 20,000 o gartrefi.