Mae tua 900 o swyddi yn y DU yn y fantol gyda Virgin Media ar ôl i’r cwmni ffonau symudol a band eang gyhoeddi cynlluniau i ad-drefnu’r grŵp.

Mae’r grŵp, sy’n berchen i Liberty Global yn yr Unol Daleithiau, wedi rhybuddio bod disgwyl diswyddiadau dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o gynllun ail-strwythuro.

Mae gan y grŵp swyddfeydd ar draws y DU, ac yn cyflogi tua 800 o weithwyr yn Abertawe, a 1,200 o bobl yn eu pencadlys yn Hook, Hampshire.

Dywedodd prif weithredwr Virgin Media,  Tom Mockridge y byddai’r ad-drefnu arfaethedig “yn rhoi mwy o ffocws ar y cwsmer, ehangu’r rhwydwaith a thwf y busnes.”

Ychwanegodd Virgin Media y bydd gwasanaethau cwsmeriaid yn cael eu hadolygu fel rhan o’r cynllun ond nad oedden nhw’n gallu dweud pa adrannau na pha safleoedd fyddai’n cael eu heffeithio gan fod ymgynghoriad gyda staff yn parhau.

Mae gan y grŵp swyddfeydd ar draws y DU, gyda’u pencadlys yn Hook, Hampshire, lle mae’n cyflogi 1,200 o bobl.