Yr Ardd Fotaneg
Mae’r BBC yn adrodd bod Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymddiswyddo ar ôl chwe blynedd yn y swydd.

Cafodd ei phenodi ym mis Mai 2010.

Yn ôl BBC Cymru mae Rosie Plummer yn bryderus yn sgil toriadau i gyllideb yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne ac yn teimlo bod angen rhywun newydd wrth y llyw.

Mae’n debyg bod curadur garddwriaeth yr Ardd Fotaneg Simon Goodenough hefyd wedi ymddiswyddo.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn grant o tua £650,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi derbyn £70,000 oddi wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin eleni.

Diffyg darpariaeth Cymraeg

Cafodd Dr Rosie Plummer ei beirniadu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd bod arwyddion uniaith Saesneg i’w gweld yn yr Ardd, a bod diffyg darpariaeth Cymraeg ar y wefan yn mynd yn groes i’w polisi iaith ac i gytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r mudiad wedi  pwyso ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones i ymyrryd er mwyn sicrhau bod yr Ardd Fotaneg  yn darparu gwasanaethau Cymraeg fel rhan o’r Cynllun Iaith Gwirfoddol.