Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £290m yn ei chynllun Cymorth i Brynu gan geisio annog rhagor o bobol i brynu eu cartrefi eu hunain.

Rhwng 2016 a 2021, bydd yr arian yn mynd at adeiladu dros 6,000 o dai newydd yng Nghymru.

Yn ôl y Gweinidog Cymunedau, fe fydd yn rhoii “hwb” i’r diwydiant adeiladu.

Y cynllun

Yn ôl y Llywodraeth, roedd tua 2,400 o bobol wedi elwa ar y cynllun yn ystod y cam cyntaf, gyda 650 o geisiadau eraill am fenthyciad gan y llywodraeth ar y gweill.

Mae’r cynllun yn rhoi benthyciadau ecwiti o hyd at 20% o bris tŷ newydd sydd gwerth hyd at £300,000.

Bydd y benthyciad hwn heb log am y pum mlynedd gyntaf ac wedyn ar gyfraddau is na’r farchnad, sef 1.75% o bris y benthyciad.

‘Hwb enfawr i’r diwydiant adeiladu’

Yn ystod 2014-2015, roedd sector tai Cymru wedi tyfu 20% ers y flwyddyn flaenorol, gyda 6,955 o dai newydd yn cael eu hadeiladu.

“Mae’r buddsoddiad gwerth £290 miliwn heddiw yn dangos yn glir ymrwymiad y Llywodraeth hon i annog adeiladu tai a helpu pobol i gyrraedd eu nod o berchen ar eu cartref eu hunain,” meddai’r Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths.

“Bydd hyn yn rhoi hwb enfawr i ddiwydiant adeiladu Cymru, ac ein heconomi yn gyffredinol, a fydd yn darparu miloedd o swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddi i bobol ledled Cymru.”