Mae Cyfarwyddwr Digidol a Strategaeth y BBC wedi cydnabod y gallai BBC Cymru ddisgwyl “toriadau pellach”.

Yn ystod uwchgynhadledd y wasg yng Nghaerdydd wythnos diwethaf, fe ddywedodd James Purnell wrth y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) nad oedd gweithredu cais y Prif Weinidog am wariant ychwanegol “ar y gweill.”

Ym mis Awst, fe alwodd Carwyn Jones am wariant ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer rhaglenni i gynulleidfaoedd Cymru.

Roedd James Purnell yn cydnabod fod gwariant y BBC yn llai yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r DU, ond nad oedd modd sicrhau’r gwariant ychwanegol.

Yn ôl archwiliad y Sefydliad Materion Cymreig, mae’r gwariant ar raglenni newydd wedi crebachu ers 2008, ac mae’r sefydliad yn rhybuddio bod sefyllfa ffi’r drwydded yn peryglu dyfodol S4C a BBC Cymru.

Fe ddywedodd James Purnell fod angen i’r BBC ddod o hyd i atebion “creadigol” i’r sialensiau sy’n cynnwys lleihad mewn incwm a’r galw am well sylw i Gymru.

Argymhellion

Yn ystod yr uwchgynhadledd, fe gyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig  eu hadroddiad sy’n cynnwys nifer o argymhellion i ddarlledu yng Nghymru.

Ymhlith y rhain mae sefydlu panel ymgynghori i fonitro’r diwydiannau darlledu a phrint, a chynyddu’r cydweithio rhwng S4C a BBC Cymru.

O ran gwasanaethau ar-lein, mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa ar gyfer gwasanaethau newyddion ar-lein arloesol.

Ar lefel Brydeinig, mae’n argymell y dylai Radio 1 a Radio 2 yng Nghymru gynnig rhaglenni newyddion Cymreig eu naws, a sefydlu iPlayer penodol i Gymru.

Mae’n nodi hefyd y dylai BBC2 Cymru ac S4C ddarlledu mewn HD.

Daw’r rhan fwyaf o gyllid S4C o ffi’r drwydded, a’r gweddill gan Lywodraeth Prydain, ond fe fu gostyngiad o 36% yn ei chyllid ers 2010.