Alton Towers
Fe allai tua 190 o weithwyr golli eu swyddi ym mharc Alton Towers ar ôl i elw’r cwmni ostwng yn sylweddol yn dilyn damwain ar atyniad yno, meddai’r perchennog.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Merlin Entertainments ostyngiad mawr yn ei elw wrth i ymwelwyr gad draw o’r parc yn Swydd Stafford yn dilyn damwain ar yr atyniad, The Smiler.

Cafodd pump o bobl eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad ar 2 Mehefin, gan arwain at gau’r parc am bedwar diwrnod.

Cyhoeddodd y cwmni heddiw eu bod yn ailstrwythuro’r busnes “ar ddiwedd blwyddyn anodd iawn” ac y gallai arwain at gael gwared a 190 o swyddi yn y parc.

Fe fydd cyfnod ymgynghori yn dechrau a dywed y cwmni eu bod yn gobeithio y bydd yr ail-strwythuro yn diogelu’r rhan fwyaf o swyddi yn y parc yn y dyfodol.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd y cwmni ei gynlluniau i adeiladu nifer o atyniadau ar draws China fel rhan o fenter ar y cyd gyda chwmni  China Media Capital (CMC).