Mae cwmni archfarchnad Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad o 55% yn ei elw yn chwe mis cynta’r flwyddyn, o £779 miliwn i £354 miliwn.

Er bod gwerthiant y cwmni wedi gwella ers y llynedd – fe fu gostyngiad o 1.3% yn y DU yn y chwe mis hyd at 29 Awst o’i gymharu â 4.6% y llynedd – mae’r gystadleuaeth yn y farchnad yn parhau’n gystadleuol.

Roedd enillion Tesco wedi gostwng 70% yn y chwe mis cyntaf – o £543 miliwn flwyddyn yn ôl i £166 miliwn.