Lesley Griffiths
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, wedi cyhoeddi heddiw mae Beth Giles – perchennog Galeri Giles o Rondda Cynon Taf – yw enillydd gwobr Arwr y Stryd Fawr.
Mae’r wobr yn cydnabod busnesau, gwasanaethau ac unigolion sy’n cyfrannu at arbenigedd eu stryd fawr, ac mae’n rhan o ddathliadau Wythnos y Stryd Fawr yr wythnos hon.
Mae Gwobrau Arwyr y Stryd Fawr yn talu teyrnged i gyfraniad hollbwysig y stryd fawr i economi a bywyd y gymuned.
Am yr artist…
Artist 31 oed yw Beth Giles, ac mae’n rhedeg oriel gymunedol ym Mhontyclun gan arddangos, hyrwyddo a gwerthu gwaith artistiaid annibynnol o bob rhan o dde Cymru.
Mae hi wedi sefydlu’i busnes ers 8 mlynedd, ond mae hi hefyd yn cynnal dosbarthiadau celf a gweithdai yn yr oriel bob wythnos.
“Mae ennill gwobr Arwr y Stryd Fawr yn anrhydedd ac yn fraint fawr i mi”, meddai Beth Giles.
“Fy ngwaith i yw fy mywyd, ac rwy’n teimlo’n gryf iawn y dylwn roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned”, ychwanegodd
“Mae hi wedi troi hen gapel yn oriel hardd sy’n cael ei gwerthfawrogi a’i defnyddio’n helaeth gan y gymuned leol”, esboniodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
“Hoffwn longyfarch Beth ar ei llwyddiant arbennig ac rwy’n gobeithio gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol”, ychwanegodd.
Categorïau eraill
Fe gyhoeddodd y Gweinidog hefyd pwy oedd enillwyr Ffefrynnau’r Stryd Fawr, sef:
- Bwyd a diod- Gwyn Davies Butchers, Llangollen, Sir Ddinbych
- Ffasiwn, iechyd a harddwch – Pout Boutique, Porth, Rhondda Cynon Taf
- Hamdden, cartref a gardd – Pieces for Places, y Bermo, Gwynedd
- Gwasanaethau proffesiynol ac ariannol – HighStreet Media, Treorci, Rhondda Cynon Taf
- Bwyta allan ar y stryd fawr – Denbigh Chocolate Shop, Dinbych, Sir Ddinbych
- Darparwr gwasanaeth cymunedol – Artie Craftie, Blaenafon, Torfaen
“Dylai pob un o’r enillwyr yn y gwahanol gategorïau ymfalchïo bod y bobl leol yn eu cydnabod fel Ffefrynnau’r Stryd Fawr”, meddai Lesley Griffiths wrth eu llongyfarch.