Rhai o bapurau newydd Trinity Mirror
Mae’r cyhoeddwr, Trinity Mirror wedi cadarnhau ei fod mewn trafodaethau i brynu grŵp papur newydd lleol, Local World, mewn cytundeb gwerth £200 miliwn.
Dywed Trinity Mirror ei fod mewn trafodaethau i brynu gweddill y cyfrannau yn y grŵp nad yw’n berchen arnyn nhw’n barod.
Mae grwp Local World yn cynnwys sawl papur newydd lleol mewn ardaloedd ar draws y DU gan gynnwys y Cambridge News, Nottingham Post, Hull Daily Mail a Leicester Mercury.
Fe fyddai’r cytundeb ymhlith y mwyaf yn hanes y wasg ranbarthol ac mae ’na ddyfalu y gall arwain at ragor o uno o fewn y diwydiant.
Mae Trinity eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn ystyried cytundeb posib i brynu asedau gan Northern and Shell, perchennog y Daily Express.
Mae Trinity yn berchen ar y Daily Mirror, y Sunday Mirror, yn ogystal â phapurau newyddion lleol, gan gynnwys y Daily Post a’r Western Mail yng Nghymru.