Mae Nwy Prydain wedi cyhoeddi gostyngiad o 5% mewn prisiau nwy i gwsmeriaid.

Mae’r cwmni’n honni y bydd y gostyngiad o fudd i 6.8 miliwn o gwsmeriaid a bydd yn dod i rym ar 27 Chwefror.

Mae Nwy Prydain yn credu y bydd yn ostyngiad o £37 mewn biliau ynni blynyddol ei gwsmeriaid.

Dywedodd Nwy Prydain fod y gostyngiad yn adlewyrchu’r cwymp diweddar mewn prisiau nwy. Mae hefyd yn dilyn pwysau gwleidyddol ar gyflenwyr ynni i drosglwyddo’r costau is i gwsmeriaid.

Dywedodd Nwy Prydain fod y rhan fwyaf o’r nwy sy’n cael ei ddefnyddio mewn cartrefi cwsmeriaid heddiw wedi cael ei brynu am brisiau uwch yn 2013/14, ond fod costau nwy heddiw wedi cyrraedd lefel digon isel iddyn nhw allu trosglwyddo’r arbedion i gwsmeriaid.

Ychwanegodd y cwmni y byddai’n adolygu’r prisiau wrth i bris nwy godi a gostwng.

Daeth cyhoeddiad Nwy Prydain wythnos ar ôl i gwmni E.ON gyhoeddi gostyngiad o 3.5% i gwsmeriaid.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi croesawu’r cyhoeddiad ond dywedodd yr arweinydd Llafur Ed Miliband fod y gostyngiad yn “rhy ychydig ac yn rhy hwyr.”