Dywedodd y gwneuthurwr ffonau symudol BlackBerry ei fod wedi addasu ei elw ar gyfer y trydydd chwarter.

Ond syrthiodd refeniw’r cwmni, ac mae ei gyfrannau wedi gostwng mwy na 5% heddiw.

Roedd BlackBerry yn cael ei ystyried fel un o gwmniau ffonau mwyaf blaenllaw y byd yn 1999 pan lansiodd ffôn oedd yn caniatau i ddefnyddwyr i gael mynediad at eu e-byst yn ddi-wifr.

Yna, daeth cenhedlaeth newydd o ffonau clyfar gan wneud i’r BlackBerry edrych yn hynafol.

Cyfran fechan iawn o’r farchnad ffonau yn yr Unol Daleithiau sydd gan BlackBerry ar hyn o bryd ar ôl dal hyd at 50% mor ddiweddar â 2009.