Mike Hedges AC
Dylid caniatau i’r Alban gadw’r bunt sterling wedi annibyniaeth yn ôl Mike Hedges, Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe.

Mewn erthygl ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, mae’n dadlau y dylid creu math newydd o arian parod ar gyfer gweddill y DU pryd hynny, gan adael i’r ddau math o arian cyfredol gychwyn yn gyfartal ac yna dod o hyd i’w lefel ei hunain.

Mae Mr Hedges yn dadlau mai dyma’r ateb symlaf i’r broblem o rannu’r drefn ariannol petai’r Alban yn annibynol.

“Buasai caniatau i’r wlad barhau i fod yn rhan o’r gyfundrefn sterling yn golygu na fuasai gan y Canghellor yn San Steffan reolaeth dros benderfyniadau fuasai yn dylanwadu ar werth y bunt,”meddai.

Mae Mr Hedges hefyd yn dadlau bod yna sawl cynsail i’r syniad yma gan ddweud mai rhywbeth tebyg ddigwyddodd pan wnaeth Tsiecoslofacia rannu’n ddwy wlad.

“Erbyn 1993, roedd gan Gweriniaeth Tsiec a Slofacia eu harian ei hunain sef coruna’r Weriniaeth a choruna Slofacia,” meddai.

Gellir darllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd ar: http://www.clickonwales.org/2014/02/scotland-and-sterling/