Mae’r cwmni teledu Tinopolis o Lanelli wedi cael ei ddewis fod yn rhan o dasglu gan y Llywodraeth i hyrwyddo diwydiannau creadigol Prydain dramor.

Fe fydd y tasglu, a gafodd ei lansio gan yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable ddydd Iau, yn chwilio am gyfleoedd ledled y byd i gwmnïau cyfryngau o Brydain allforio eu gwasanaethau. Mae’r Llywodraeth o’r farn fod modd ennill gwerth hanner biliwn o bunnau o waith i gwmnïau Prydain fel hyn.

Dywedodd sylfaenydd Tinopolis, Ron Jones, ei bod hi’n holl bwysig i gwmnïau o Gymru chwarae rhan ymgyrchoedd o’r fath:

“Ro’n i wedi gobeithio y byddai mwy o gwmnïau o Gymru ar y rhestr gan y bydd hyn yn helpu ni gario’r faner i farchnadoedd a thiroedd newydd,” meddai.

“Mae’r cyfle yma ynglŷn â pharatoi deunydd yn unswydd ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol ac nid gwerthu rhaglenni sydd wedi eu gwneud ar gyfer marchnadoedd cartref.”

Fe fydd pob cwmni yn y tasglu’n paratoi ei gynllun ehangu rhyngwladol ei hun ac yn cael help gan arbenigwyr Adran Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Prydain.