Mae Ford wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £24m yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ddiogelu hyd at 500 o swyddi.

Fe fydd y ffatri yn dechrau cynhyrchu injan newydd sy’n defnyddio llai o betrol yn y ffatri sy’n cyflogi 2,300 o weithwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £12m tuag at y fenter.

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dilyn toriadau i’r cwmni y llynedd, pan gafodd safleoedd yn Dagenham a Southampton eu cau.

Ond fe lwyddodd y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr i oroesi’r toriadau gafodd eu gwneud i’r cwmni ledled Ewrop.

Cadw swyddi yng Nghymru

Mae Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart, wedi croesawu’r newydd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed gyda Ford er mwyn sicrhau’r buddsoddiad a ry’n ni wrth ein bodd yn cadarnhau pecyn cymorth o £12m tuag at y rhaglen gyffrous yma.

“Bydd hyn yn diogelu ac yn creu swyddi cynhyrchu a pheirianneg o safon uchel yng Nghymru.”

Croesawodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Alun Ffred Jones, y newyddion ond dywedodd nad oedd digon o gyhoeddiadau tebyg yng Nghymru.

“Mae’r buddsoddiad hwn gan Ford yn newyddion da i weithwyr Ford ac i economi’r de.

“Mae Cymru yn lle da i fusnesau rhyngwladol fel Ford – mae gennym weithlu gyda sgiliau uchel, cysylltiadau trafnidiaeth dda, ac yr ydym yn agos at farchnadoedd Ewrop – ac rydw i’n falch fod Ford yn gweld gwerth yn hyn.

“Gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud llawer mwy i annog busnesau mawr i symud i Gymru. Fodd bynnag, eithriadau prin yw buddsoddiadau fel un Ford heddiw.

“Rhaid i ni fynd ati o ddifrif i helpu’r busnesau sydd yma eisoes. Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru yn wan iawn, ac erys diweithdra ymysg pobl ifanc yn rhy uchel,” meddai Alun Ffred Jones.

Mae Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru sy’n cynnwys Pen-y-bont, wedi croesawu’r newydd ond hefyd wedi cyfeirio at ymgyrch cyn-weithwyr rhannau ceir Visteon:

“Mae’n dda i weld buddsoddiad Ford ym Mhen-y-bont,” meddai ar ei chyfrif Twitter.

“Ond trueni nad ydyn nhw’n gallu rhoi pensiynau i ymgyrchwyr Visteon.”