Nant Gwrtheyrn
Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru yn Nant Gwrtheyrn yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed heddiw.

Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn dysgu Cymraeg i oedolion ac fe ddaeth y criw cyntaf o ddysgwyr at ei gilydd mewn tŷ teras oedd wedi cael ei adnewyddu yn y pentref.

Pryd hynny roedd y rhan fwyaf o’r adeiladau yn y pentref chwarelyddol, sy’n dyddio o Oes Fictoria, wedi dadfeilio ac mewn cyflwr gwael.

Yn ystod y 6 mlynedd diwethaf, gwnaed gwaith adnewyddu gwerth £5m i’r pentref  a bellach mae yna lety 4 seren, ffordd fynediad newydd, stafell ar gyfer cynnal cynadleddau, priodasau a digwyddiadau eraill, yn ogystal ag arddangosfeydd treftadaeth newydd sy’n cynnwys tŷ o 1910.

Bydd y dathlu yn cychwyn efo sioe sleidiau ac yna parti penblwydd pan fydd Sylfaenydd y Nant, Dr Carl Clowes, yn sôn am ei brofiadau yn ystod dyddiau cynnar y ganolfan.

Bydd darlun newydd o Rhys a Meinir gan yr artist Roy Guy hefyd yn cael ei dddadorchuddio gan fod y cymeriadau yn rhan bwysig o chwedloniaeth y Nant.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan mai bwriad y diwrnod yw “dathlu, hel atgofion a chydnabod ymdrechion unigolion dirifedi dros y blynyddoedd i gyfrannu at lwyddiant Nant Gwrtheyrn.”