Mae Cyngor Sir Ceredigion yn holi barn trigolion lleol ynghylch datblygu Theatr Felin-fach yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n cychwyn ar  Chwefror 4, yn cynnig dau opsiwn ar gyfer trawsnewid y theatr enwog yn nyffryn Aeron, sef naill ai adnewyddu’r adeilad presennol a’i adnoddau neu symud y theatr i safle ysgol ardal newydd. Does dim manylion ynglŷn â ble yn union fydd y safle honno.

Yn ôl y Cyngor, bydd yr opsiwn i adleoli’r theatr ond yn cael ei wneud os bydd penderfyniad ar wahân i sefydlu’r ysgol ardal newydd.

Mae disgwyl i ymgynghoriad ar y datblygiad hwnnw gychwyn ar Chwefror 4 hefyd, ar ôl i gynnig gael ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ddechrau’r wythnos (dydd Mawrth, Ionawr 22).

“Mae Theatr Felin-fach wedi bod wrth ganol theatr a diwylliant yng Ngheredigion am gryn dipyn o amser,” meddai’r Cynghorydd Catherine Hughes, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiwylliant.

“Rydym eisiau gwarchod a gwella’i gwaith trwy ddatblygu’r Theatr ymhellach. I wneud hyn, mae angen i ni glywed o’n cymunedau ar ba opsiwn a ffefrir.”