Mae bardd o Geredigion yn dweud ei bod yn “bosib iawn” ei fod yn ddisgynnydd i un o dywysogion enwocaf yr hen Bowys, Madog ap Maredudd.

Yn ôl Eurig Salisbury, mae nifer o drigolion Dyffryn Ceiriog yng nghanol Powys, sef bro mebyd ei fam, yn gallu olrhain ei hachau i dywysogion Powys.

Mae’n dweud felly fod y cysylltiad teuluol posib wedi dylanwadu ar ei ddewis o Madog ap Maredudd fel ei “hoff dywysog yn hanes Cymru”.

Mae’n ychwanegu hefyd fod y tywysog o’r 12G yn “dipyn o foi”, gyda Phowys ar ei “mwyaf grymus” yn ystod ei deyrnasiad ef.

“Mi roedd ei dir o a’i rym o yn ymestyn yr holl ffordd o gyrion Caer yn y gogledd i lawr i Bumlumon yn y de, ac mi roedd o hefyd yn cynnwys rhannau helaeth o’r hyn cael ei alw’n Lloegr, yn cynnwys tre’ Croesoswallt,” meddai.