Neuadd y Ddinas Abertawee
Mae’r ysgol Gymraeg gynta’ ers bron ddegawd yn Abertawe wedi cael ei henwi.

Wythnos cyn i Eisteddfod yr Urdd ymweld â’r ardal, fe gyhoeddodd Cyngor Dinas Abertawe mai Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan fydd enw’r ysgol sydd am wasanaethu ardal Treforys.

Fe fydd yn agor ei drysau ym mis Medi – yr ysgol Gymraeg gynta’ yn y sir ers 2002.

Yn ôl y cynghorydd gyda chyfrifoldeb am addysg, Mike Day, roedd yr ysgol yn ymateb i’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ardal Treforys.

Fe fydd yn gwasanaethu ardaloedd Pentrepoeth a Chwmrhydyceirw hefyd.

‘Cyfrannu at fywyd y gymuned’

Ac fe ddywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol newydd fod y datblygiad yn un pwysig i ardal Treforys.

“Mae’n cael ei hysgol cyfrwng Cymraeg ei hun a fydd yn gallu cyfrannu at fywyd y gymuned,” meddai Linda Griffiths.