addysg
Mae llywodraeth glymblaid San Steffan wedi cael ei rhybuddio nad oes gan athrawon “ddim hyder” yn y cynlluniau sydd ganddi o ran diwygio ysgolion yn Lloegr. Mae arweinydd undeb yr NASUWT wedi mynd cyn belled â galw am ddiswyddiad yr Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove.

Mae cynnig sydd wedi ei basio yng nghynhadledd yr NASUWT yn Glasgow y penwythnos hwn, wedi galw am ymgyrch – yn cynnwys streicio – er mwyn sicrhau “sustem genedlaethol o addysg wladwriaethol”.

Mae’n cynnwys gwelliant sy’n nodi nad oes gan athrawon “ddim hyder ym mholisïau addysg y llywodraeth glymblaid”.

Yn ôl Ysgrifennydd Cenedlaethol yr NASUWT, Chris Keates: “Mae’r cynnig hwn yn adlewyrchu pa mor gryf y mae athrawon yn teimlo ynglyn â pha mor anghywir ydi polisïau San Steffan.

“Dw i’n gobeithio fod hyn yn gwneud i’r llywodraeth glymblaid oedi ac ystyried, yn hytrach na bwldosio’r newidiadau trwodd.”