Cynllun ar gyfer y Llyfrgell
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y byddan nhw’n derbyn dros £10m o arian y Loteri Genedlaethol  i ailddatblygu adeilad eiconig yr Hen Goleg.

Yn ôl y cynlluniau adnewyddu, mi fydd yr adeilad yn cael ei drawsnewid mewn i ofod perfformio, oriel, canolfan i fusnesau, caffi ac ystafelloedd cymunedol.

Bydd yn gartref hefyd i amgueddfa’r brifysgol, a chanolfan wyddonol newydd fydd yn cynnwys arddangosiadau rhyngweithiol â phlanedariwm.

Mae’r brifysgol yn amcangyfrif mai tua £22 miliwn fydd cyfanswm cost y brosiect, ac maen nhw’n barod wedi dechrau cynllunio ffyrdd eraill o ariannu’r prosiect.

“Cyfleusterau bywiog newydd”

“Ag yntau wedi’i adeiladu gyda cheiniogau chwedlonol y werin, mae’n gweddu rhywsut fod arian gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn adfywio’r adeilad ac economi’r rhan hyfryd hon o Gymru,” meddai Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure.

“Ein gobaith yn awr yw y daw’r Hen Goleg yn ganolfan ar gyfer arddangos ymchwil, addysgu a thrysorau rhagorol Prifysgol Aberystwyth, tra’n darparu cyfleusterau bywiog newydd ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned leol sy’n bartneriaid allweddol yn y fenter hon.”

Nod y brifysgol yw i gwblhau’r gwaith adnewyddu mewn pryd ar gyfer dathliad 150 mlwyddiant y brifysgol yn 2022.