RSS

Golwg360

MwyCau 

Gradd newydd er mwyn cytgord rhwng crefyddau

Gorffennaf 16, 2017 10:12 Diweddarwyd Gorffennaf 17, 2017 14:43


Yr HYbarch Feistr Chin Kung (Solomon203 CCA2.0)
Fe fydd tua £1 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gradd ymchwil newydd i hyrwyddo trafod rhwng crefyddau mawr y byd.

Mae’r radd doethuriaieth mewn Cytgord ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi ei noddi gan sefydliad Bwdaidd sydd â miliynau o ddilynwyr.

Roedd cyfarfod ar gampws y Brifysgol yn Llanbed ddiwedd yr wythnos diwetha’ i drafod dilysu’r cwrs tair blynedd a fydd yn cynnwys astudiaeth o ysgrythurau’r prif grefyddau gydag ysgoloriaethau i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.

Mwy o drafod a chytundeb

Y gobaith yw y bydd arweinwyr crefyddol rhyngwladol yn enwebu myfyrwyr i ddod ar y cwrs a hynny’n arwain at fwy o drafodaeth a chytundeb, meddai Dr Catrin Williams o adran grefydd y Brifysgol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad am y ddoethuriaeth yn ystod cynhadledd rhyng-ffydd a oedd hefyd wedi’i noddi gan Sefydliad Addysgol Bwdaidd y Tir Pur a’i harweinydd, yr Hybarch Feistr Chin Kung.

Y disgwyl yw y bydd mwy nag 20 o fyfyrwyr yn dod i Lanbed ar gyfer y radd tair blynedd – fe fydd yn dechrau gydag addysgu am y prif ysgrythurau a’r hyn sy’n gyffredin rhyngddyn nhw ac wedyn ymchwil i dyfnach i ysgrythurau crefydd benodol.

‘Llawenydd’

“Fe fydd hyn yn llawenydd mawr i Dduw yr holl grefyddau,” meddai Chin Kung wrth annerch y gynhadledd.

“Mae 70-80% o gynnwys y prif grefyddau yrn gyffredin neu’n debyg; mae’r gwahaniaethau yn y gwahanol ffyrdd o fyw.”

Mae Chin Kung hefyd yn pwysleisio cytgord gyda’r ddaear a’r byd naturiol – “Dylai pobol garu’r byd ar ran Duw,” meddai.

Mae wedi bod yn treulio dau fis yn Llanbed; mae hefyd yn gweithio ar gynlluniau i dynnu’r cerefyddau ynghyd yn Awstralia a Singapore ac yn cymryd rhan flaenllaw mewn trafodaethau yn y maes gyda sefydliad y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.