Caerfyrddin fydd cartref Yr Egin, ond y cwrs actio Cymraeg yn gadael y dref
Fydd hi ddim yn bosib astudio cwrs gradd Perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gampws Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin o fis Medi ymlaen.

Mae’r cwrs, sydd wedi meithrin cenedlaethau o actorion, perfformwyr a chyfarwyddwyr byd y theatr Gymraeg dros y degawdau, yn dod i ben – a chwrs newydd yn y brifddinas yn cymryd ei le.

Fe fydd hi’n dal yn bosib i astudio am radd BA Actio trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghaerfyrddin ym mis Medi. Ond fe fydd yn rhaid i ddarlithwyr y cwrs Cymraeg hefyd symud i Gaerdydd gyda’u gwaith.

Mae golwg360 yn deall bod elfennau o’r cwrs Cymraeg wedi bod yn symud i ganolfan The Gate yng Nghaerdydd yn raddol dros y tair blynedd diwethaf, ac fe allai rhannau o’r cwrs fod ar gael yn Abertawe.

Yng Nghaerdydd, Eilir Owen Griffiths, yr arweinydd corau a chyfarwyddwr cerddorol Eisteddfod Gydwladol Llangollen, sydd wedi bod yn gyfrifol am y cwrs ers sefydlu The Gate gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant ym mis Medi 2015.

Canolfan Berfformio

Ar wefan y brifysgol dan y pennawd “Pam Caerdydd?” mae’r sefydliad addysg yn cyfiawnhau lleoli’r ganolfan yn y brifddinas, gan ddweud bod y “myfyrwyr yn gallu manteisio ar y partneriaethau sydd gennym gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a BBC Cymru”.

Ond mae rhai sy’n feirniadol o’r cwrs newydd hwn, gan ddweud nad yw’n meithrin nac yn ymestyn “perfformwyr” mewn gwirionedd, gan fod cyfnodau yn cael eu treulio ar brofiad gwaith yn rhedwyr ac yn ymchwilwyr i gwmnïau teledu a theatr.

Ac mae beirniaid hefyd yn holi pam symud cwrs Perfformio cyfrwng Cymraeg o Gaerfyrddin ar adeg pan y mae’r Theatr Genedlaethol a’i phencadlys ar gampws y brifysgol yn y dref, a phencadlys S4C, Yr Egin, ar fin symud yno.

Ymateb Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant 

“Fel rhan o’i strategaeth i ddatblygu portffolio o gyrsiau cyfrwng Cymraeg hyfyw yn y celfyddydau, sefydlodd y Brifysgol radd arloesol ddwy flynedd o hyd yng Nghaerdydd yn 2015. Bu’r ymateb i’r cwrs y tu hwnt o galonogol o du darpar fyfyrwyr a’r diwydiannau creadigol fel ei gilydd.

“Mae gan y Brifysgol gynlluniau cyffrous ar y gweill i ehangu ei darpariaeth ym meysydd y diwydiannau creadigol ar draws ei holl gampysau – yn enwedig yng Nghaerfyrddin yn sgil datblygiadau arfaethedig ar y campws hwnnw – ac edrychwn ymlaen at lansio sawl rhaglen Gymraeg a dwyieithog newydd ac arloesol o fewn y ddwy flynedd nesaf.”