Llun o wefan yr NSPCC
Mae nifer y troseddau rhyw ar y rhyngrwyd yn erbyn plant wedi cynyddu bron hanner mewn blwyddyn, yn ôl ffigurau gan yr elusen blant, yr NSPCC.

Ac mae’r ffigurau yn waeth yng Nghymru, lle’r oedd 690 o droseddau rhyngrwyd wedi eu cofnodi gan dri o’r heddluoedd.

Mae hynny’n cymharu gyda 290 y flwyddyn gynt, pan oedd y pedwar heddlu wedi ymateb.

Heddlu De Cymru oedd yr unig un i wrthod rhoi ffigurau eleni, gan ddweud bod y gost yn ormod.

Y manylion

Dyma’r ffigurau gan y tri heddlu a roddodd wybodaeth:

Dyfed-Powys: 554

Gwent: 36

Gogledd Cymru: 100

Fe ddaeth y ffigurau wrth i NSPCC Cymru alw am gyflymu’r broses o gyhoeddi cynllun gweithredu – mae Llywodraeth Cymru wedi addo creu cynllun o’r fath.

Cynnydd o 44%

Yn ôl ffigurau a gafwyd gan 39 o heddluoedd Cymru a Lloegr, trwy gais Rhyddid Gwybodaeth gan yr elusen, roedd yna 5,653 achos o droseddau rhyngrwyd yn erbyn plant yn 2016-17.

Roedd hynny’n gynnydd o 44% ar y flwyddyn gynt ac, yn awr, mae’r NSPCC wedi galw am reoleiddiwr annibynnol i gadw llygad ar y maes a rhes o reolau ar gyfer cwmnïau rhyngrwyd.

‘Rhaid gweithredu’

Allwn ni ddim llaesu dwylo gan wybod bod mwy a mwy o bobol ifanc ddiniwed yn cael eu niweidio ar-lein,” meddai Prif Weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless.

“Mae’r data tryblus heddiw yn golygu nad oes gan y llywodraeth nesa’ ddim dewis ond mynd I’r afael ar unwaith â’r broblem hon.

“R’yn ni’n galw arnyn nhw i orfodi cwmnïau rhyngrwyd a gwefannau cyfryngau cymdeithasoli gadw at reolau sy’n diogelu eu defnyddwyr ifanc.”

  • Dyma’r ail flwyddyn i heddlueoedd orfod nodi’n gyhoeddus pa droseddau sy’n ymwneud â’r rhyngrwyd.