Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Llun: Gwefan y brifysgol
Mae 100 o swyddi “mewn perygl” ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wrth i’r sefydliad geisio arbed miliynau, yn ôl undeb.

Yn ôl undeb Unsain mae’r brifysgol yn gobeithio arbed £10.5m dros y pum mlynedd nesaf ac mi fydd diswyddiadau gwirfoddol yn cael eu cynnig i bob aelod o staff parhaol.

Mae nifer o brifysgolion Cymreig – gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Bangor – eisoes wedi awgrymu bod diswyddiadau yn debygol wrth iddyn nhw geisio arbed arian.

“Haeddu cael ei ddiogelu”

“Pan yr ydych yn ystyried gwerth Met Caerdydd i’r economi lleol a’r ffaith bod nifer o Brifysgolion Cymreig wedi cyhoeddi diswyddiadau, dylai Llywodraeth Cymru ystyried os oes rhaid ymyrryd,” meddai Ysgrifennydd Cangen  Unsain, Phil Sefton.

“Fel llefydd lle mae myfyrwyr yn medru dysgu, mae’r sector Addysg Uwch yng Nghymru yn haeddu cael ei ddiogelu.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd am ymateb. Nid oes gan Lywodraeth Cymru sylw.