Mae diswyddiadau yn “debygol iawn” o ddigwydd ym Mhrifysgol Bangor, a hynny er mwyn arbed arian yn ôl undeb.

Yn ôl llefarydd Unsain mae’r brifysgol yn wynebu “trafferth ariannol difrifol” ac mae disgwyl i’r sefyllfa waethygu dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’n debyg bydd y sefyllfa yn gwaethygu oherwydd cwymp yn nifer y myfyrwyr a chwymp yn nifer y grantiau mae’r brifysgol yn derbyn.

Nid yw’r undeb yn siŵr faint o swyddi sydd yn y fantol.

“Yn amlwg rydym ni’n bryderus iawn am fygythiad i swyddi,” meddai llefarydd Unsain. “Mi wnawn ni bopeth y gallwn i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen. Ac mae’n bwysig bod ansawdd yr addysg a chefnogaeth i fyfyrwyr yn cael ei ddiogelu a’i wella.”

“Cynnal arolwg”

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal arolwg er mwyn sicrhau ei bod yn “gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol posib.

“Ers ychydig fisoedd mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cynnal arolwg eang o’i weithgareddau er mwyn sicrhau y gall ymateb i’r newidiadau a ddaw ym maes Addysg Uwch yn ystod y blynyddoedd i ddod,” meddai’r brifysgol mewn datganiad.

“Bydd yr arolwg yn rhoi cyfle i ni fuddsoddi yn ein rhaglenni academaidd presennol yn ogystal â rhai newydd, a bydd hefyd yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn gwell cyfleusterau a fydd yn sicrhau fod Bangor yn parhau i ddarparu addysg o’r safon uchaf ar gyfer ei myfyrwyr.”