Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Fe allai rhai o staff Prifysgol Aberystwyth wynebu colli eu swyddi wrth i’r brifysgol geisio gwneud arbedion o £11.4m mewn dwy flynedd.

Mae’r brifysgol wedi cadarnhau eu bod wedi “dechrau’r trafodaethau” gan lythyru at aelodau o staff i ddod o hyd i ddiswyddiadau gwirfoddol neu ymddeoliadau cynnar.

Mewn datganiad, mae’r brifysgol yn esbonio fod angen gwneud arbedion o £6m yn ystod 2017-2018; a £5.4m o arbedion yn 2018-2019.

‘Prif gyflogwr yn y gorllewin’

Mae llefarydd ar ran undeb Unsain yn awgrymu y gallai hyd at 150 o swyddi fod yn y fantol.

“Mae’r brifysgol wedi cyfarfod â’r undebau llafur ac o ystyried graddfa’r arbedion sydd eu hangen, rydym yn deall y gallai hyd at 150 o swyddi fod mewn peryg,” meddai Jeff Baker ar ran Unsain.

“Prifysgol Aberystwyth yw’r prif gyflogwr yn y gorllewin ac, yn ddi-os, bydd hyn yn effeithio ar yr economi leol a rhanbarthol.”

Dywedodd y bydd yr undeb yn cydweithio â’r brifysgol i warchod “cyflogau, telerau ac amodau” gweithwyr.

Diffyg yn y gyllideb

Mae datganiad y brifysgol yn ychwanegu eu bod nhw’n cynnal ymgynghoriad ag undebau llafur gyda’r “nod o osgoi neu leihau’r angen am ddiswyddiadau gorfodol.”

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi amlygu rhai o’r rhesymau sydd wedi effeithio ar ddiffyg y gyllideb gan gyfeirio at ansicrwydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, rheoliadau fisa tynnach i fyfyrwyr rhyngwladol a mwy o gystadleuaeth am fyfyrwyr.

‘Dim newid i Bantycelyn na’r Hen Goleg’

Maen nhw wedi cadarnhau na fydd angen cau unrhyw adran ac na fydd newid i’w hymrwymiad i brosiectau Campws Arloesi a Menter, Pantycelyn na’r Hen Goleg.