Bechgyn Plasmawr yn Porto (Llun trwy ganiatad yr ysgol)
Mae 45 o ddisgyblion blwyddyn 8 a 9, Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, wedi bod yn ymarfer gyda Chlwb Pêl-droed  Porto – a hynny er mwyn ddatblygu eu sgiliau  a chael blas ar ddiwylliant gwlad arall.

Mae Porto wedi ennill Tlws y Pencampwyr ddwywaith – y tro cyntaf yn erbyn Bayern Munich yn ystod tymor 1986/87, ac wedyn yn erbyn Monaco yn ffeinal 2003/04, pan oedd Jose Mourniho yn rheolwr arnyn nhw.

“I mi, uchafbwynt y daith oedd gweld ein tîm blwyddyn 8 yn chwarae yn erbyn tîm yn gysylltiedig ag academi Porto,” meddai Iwan Rowlands, athro Ysgol Gyfun Plasmawr. “Roedd safon eu pêl-droed yn arbennig o dda.

“Yn ffodus, roedd gan Blasmawr ychydig o fechgyn oedd yn gorfforol gryfach, ac felly lwyddon ni i ennill y gêm.”

Roedd Iwan Rowlands awyddus i’r disgyblion gael profiad o sut beth ydi hyfforddi ar y lefel uchaf, a chael y cyfle i chwarae yn erbyn timau sy’n chwarae math gwahanol o bêl-droed i’r hyn y maen nhw’n arfer ag o yng Nghymru.

Rhan o’r daith oedd ymweld â’r ddinas a mynychu gêm gartref Porto yn erbyn Beleneses ac, er bod y gêm ychydig yn unochrog, roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn arbennig. Yn ystod yr ymweliad cafwyd taith o gwmpas stadiwm FC Porto ac amgueddfa’r clwb hefyd, lle cafodd y disgyblion cyfle cynnar i weld Cwpan y Pencampwyr.

“Roedd yn daith arbennig o dda,” meddai Ioan Llywelyn o flwyddyn 9. “Roedd safon yr hyfforddi yn uchel, ac roedd yn dipyn o brofiad i chwarae yn erbyn tîm lleol er i ni golli. Roedd safon y caeau ar gyfer y gemau tipyn yn well na’r hyn rydy ni’n gyfarwydd â nhw yma yng Nghaerdydd!!’

Daeth y daith i ben gyda’r bechgyn yn cael pryd o fwyd yn un o ‘bocsys lletygarwch’ Porto. Tipyn o brofiad i’r bechgyn a’r athrawon. Yn dilyn llwyddiant y daith mae’r athro yn dechrau meddwl am y daith nesaf yn barod!