Wrth i gyrsiau TGAU yng Nghymru newid eto, mae’r corff Cymwysterau Cymru yn lansio ymgyrch i rannu gwybodaeth ymysg rhieni a gofalwyr.

Bydd disgyblion sy’n sefyll eu harholiadau TGAU’r haf hwn yn cael y set gyntaf o’r arholiadau diwygiedig a gafodd eu cyflwyno yn 2015.

Mae disgwyl i dros 70,000 o bosteri a thaflenni gael eu dosbarthu mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru ac i rieni a gofalwyr disgyblion ym mlynyddoedd 10 ac 11, yn esbonio’r newidiadau.

Yma yng Nghymru mae’r cyrsiau TGAU yn cael eu diwygio ond yn cadw’r graddau A*-G traddodiadol, tra bod Lloegr hefyd yn diwygio eu cyrsiau TGAU, ond mae system raddio 9-1 newydd yn cael ei chyflwyno yno.

“Mae’n bwysig bod cymwysterau TGAU yn parhau i fod yn llym ac yn berthnasol i ddisgyblion heddiw wrth ddiwallu anghenion colegau, prifysgolion a chyflogwyr,” meddai Philip Blaker, Prif Swyddog Gweithredol Cymwysterau Cymru.

“Mae’r un mor bwysig bod y newidiadau hyn yn cael eu deall yn llawn gan y cyhoedd, a dyma’r rheswm pam rydym wedi lansio’r ymgyrch wybodaeth hon cyn dechrau ar gyfres arholiadau’r haf.”

Newidiadau

Mae rhai o’r newidiadau i’r cymwysterau yn cynnwys:

  • Rhannu TGAU Mathemateg yn ddau arholiad newydd – TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd;
  • Dileu asesu ysgrifenedig sydd ddim mewn arholiad TGAU Saesneg Iaith;
  • Sicrhau bod Hanes Cymru yn rhan orfodol o TGAU Hanes.

Pob gradd o’r un gwerth

Mae Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Chymru a Lloegr, hefyd yn y broses o gyflwyno newidiadau i’w arholiadau TGAU.

“Er bod Lloegr yn newid i system raddio 9-1 ar gyfer cyrsiau TGAU, mae’n bwysig bod rhieni a chyflogwyr yn cofio na fydd yn effeithio ar werth cyrsiau TGAU yng Nghymru,” ychwanegodd Philip Baker.

“Bydd cymwysterau TGAU a ddyfernir yng Nghymru gyda graddau A*-G yn aros yn debyg i’r rheini a gymerir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Gall rhieni a chyflogwyr fod yn hyderus y bydd y cymwysterau a gymerir yn y tair gwlad yn parhau i fod o’r un maint ac yn hygyrch i’r un ystod o ddisgyblion.”