Syr Deian Hopkin
Gyda Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 heddiw mae un o’i disgyblion cynta’ wedi bod yn siarad am ei atgofion gyda golwg360… a hynny ar ddydd ei ben-blwydd yntau.

“Fe agorwyd hi ar Fawrth y cyntaf 1947, ac mae’n rhaid i fi gyfaddef fy mod i mor oedrannus nes fy mod i yn yr ysgol yna y diwrnod cyntaf,” meddai’r dyn a fu’n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Is Ganghellor Prifysgol y South Bank yn Llundain.

“Ro’n i’n cael fy mhen-blwydd yn dair oed yr un diwrnod,” meddai wedyn, “a ges i fy nghario yno, ar ysgwyddau fy nhad trwy’r eira.

“Agorwyd yr ysgol yn festri Capel Seion, Llanelli. Dyna oedd yr unig lle oedd ar gael nes i ni symud ymlaen i hanner ysgol, ac yna cawsom ni ein hysgol ein hunain ar yr hen Copperworks ar bwys yr orsaf  yn Llanelli.

“O’n i yna trwy gydol yr amser yna – o’r dechrau ar Fawrth 1 1947 hyd nes i mi adael yn 1955 – ac felly dw i wedi gweld datblygiad a thwf yr ysgol o 35 i dros 100 o ddisgyblion.”

Arbrawf fawr

Fel yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu gan awdurdod lleol, dywed Deian Hopkin bod Ysgol Dewi Sant wedi cael ei trin fel “arbrawf fawr” yr adeg honno, ond bellach mae manteision addysg Cymraeg yr ysgol yn amlwg.

“Oedd hon yn ysgol eithriadol dan arweinyddiaeth Olwen Williams ac athrawon arbennig fel Nest Thomas ac yn y blaen. Roedd hi’n arbrawf fawr, dysgu pobol ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, ac roedd lot o bobol yn amheus iawn ac yn holi, oedd hi’n bosibl cael y math yna o addysg?

“Oedd lot o’r plant o deuluoedd digon cyffredin. Ac eto, mi roedden nhw’n lwyddiannus dros ben. O’r 35, dw i’n credu bod hyn yn gywir, mae 5 o’r disgyblion wedi mynd mlaen i gael gyrfaoedd mewn Prifysgolion.

“Beth oedd yn nodweddiadol am yr Ysgol Gymraeg oedd sut oedd y gymuned o’r disgyblion yno wedi glynu at ei gilydd dros y blynyddoedd.”

Mae Deian Hopkin yn cofio nifer o ddigwyddiadau diddorol yn gysylltiedig â’r ysgol yn cynnwys “ymweliadau â phobol o Hong Kong” a pherfformiad “stori hanesyddol Gymreig o flaen miloedd” gan ddisgyblion yr ysgol yn yr Albert Hall yn Llundain.

Pen-blwydd hapus!

O ran ei atgofion ef o’i benblwyddi yn yr ysgol, mae Deian Hopkin yn edrych yn ôl ar gyfnod hapus ac yn cofio drysu wrth i ddathliad ein nawddsant gyd daro â’i ben-blwydd.

“Un fantais o gael eich geni ar Ddydd Gŵyl Dewi mewn Ysgol Gymraeg, wrth gwrs, ydi bod hi’n ddiwrnod o wyliau a dathlu, ond am rhai blynyddoedd roeddwn dan yr argraff mai dathlu fy mhen-blwydd i oedden nhw’n gwneud! O’n i erioed wedi clywed am Dewi Sant!”

Gwrandewch ar Deian Hopkin yn hel atgofion am Ysgol Dewi Sant yn fan hyn: