Llun: PA
Fe ddylai Cymru barhau â’i diwygiadau i’r cwricwlwm addysg, meddai adroddiad gan y  corff sy’n gyfrifol am ganlyniadau rhyngwladol PISA ar gyfer ysgolion.

Mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a  gafodd ei gyhoeddi heddiw yn canmol “gweledigaeth hir dymor” y diwygiadau, a’r cydweithio rhwng y llywodraeth a’r sector addysg.

Ond dywed y corff bod angen cryfhau datblygiad penaethiaid ysgolion a buddsoddi mwy yn y proffesiwn er mwyn codi safonau.

Daw’r adroddiad ar ôl i’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wahodd y corff i adolygu’r newidiadau i’r cwricwlwm ym mis Tachwedd 2016.

Yn dilyn cyhoeddiad canlyniadau PISA siomedig yn 2009 dechreuodd Llywodraeth Cymru y broses o ddiwygio’r sustem addysg yn 2011 a chafodd adroddiad ei gyhoeddi ar y newidiadau gan yr OECD yn 2014.

Caiff Llywodraeth Cymru ei chanmol am “welliannau” ers 2014 ond mae’r adroddiad hefyd yn galw ar wleidyddion i “fwrw ati i weithredu’r” newidiadau.

Croesawu’r canfyddiadau

“Fe wnes i wahodd yr OECD i ddod i Gymru i herio’r hyn rydyn ni’n ei wneud i ddiwygio ein system addysg yng Nghymru ac rydw i’n croesawu eu canfyddiadau. Rydyn ni eisoes yn cymryd camau i roi nifer o’u hargymhellion ar waith,” meddai Kirsty Williams.

“Mae hynny’n cynnwys creu academi genedlaethol newydd ar gyfer arweinyddiaeth, trawsnewid addysg gychwynnol athrawon, lansio safonau proffesiynol newydd a chyflwyno trefn genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol.

“Ein gwaith yw parhau i gynnal ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg yn seiliedig ar wella safonau a helpu pob dysgwr yng Nghymru, beth bynnag ei gefndir, i gyflawni ei botensial.”

“Gwendidau amlwg”

Ond mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar, yn dweud fod yr adroddiad yn amlygu “gwendidau amlwg” yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru.

“Mae adroddiad yr OECD yn amlygu gwendidau amlwg cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru, ac yn cynnig argymhellion llym. Yn benodol ceir un argymhelliad ynglŷn â’r angen am arweinyddiaeth gryfach wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd a symud tuag at fformiwla ariannu ysgolion cenedlaethol.”

“Rydym yn croesawu cynlluniau’r OECD i leihau’r baich gweinyddol ar benaethiaid ysgolion trwy annog cyflogi rheolwyr busnes, ond mae’n anodd gweld sut fyddai ysgolion llai yn gallu fforddio hyn.”