Mae’r corff adolygu ysgolion, Estyn, yn dweud fod yr ysgolion sy’n gwrando ar lais y plentyn wrth wneud penderfyniadau, yn fwy llwyddiannus.
Yn yr adroddiad ‘Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau’, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae Estyn yn dweud fod gwrando ar ddisgyblion yn rhywbeth sy’n helpu ysgolion i wella. Mae’r adroddiad yn cynnwys saith astudiaeth achos arfer dda.
Yn ôl Estryn, mae pedair nodwedd yn gyffredin i ysgolion sy’n rhoi llais cryf i’w disgyblion:
- Mae barn y plant yn rhan annatod o weledigaeth ac ethos yr ysgol;
- Mae yna drefn glir ar waith er mwyn casglu barn y disgyblion;
- Mae disgyblion yn cael amrywiaeth o gyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw;
- Mae staff yn cael eu hyfforddi i sicrhau bod lleisiau disgyblion yn cael eu clywed.
“Mae gan lais cadarn disgyblion fuddion clir i ysgolion a dysgwyr,” meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd.
“Rwy’n annog pob ysgol i ddarllen yr arfer orau sydd i’w gweld yn yr adroddiad hwn i’w helpu i wella’r effaith a ddaw yn sgil sicrhau bod lleisiau disgyblion yn cael eu clywed.”
Yn ôl yr adroddiad, gall cyfranogiad cadarn gan ddisgyblion gynorthwyo â gwella’r ysgol trwy helpu’r ysgol i amlygu’r hyn sy’n bwysig, a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Mae’r adroddiad yn amlygu’r arfer dda yn Ysgol Gynradd Hafod yn Abertawe, lle mae pob disgybl yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddylanwadu ar benderfyniadau’r ysgol. Bob wythnos, mae grŵp llais y disgybl yn mynd â blychau awgrymiadau o amgylch yr ysgol cyn cynnal ‘gwasanaeth aur’ yn wythnosol, pan fydd y grŵp yn rhoi adborth i weddill yr ysgol.
O ganlyniad, meddai’r adroddiad, mae disgyblion yn hyderus bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn ac wedi datblygu hunanhyder, hunan-barch a medrau gwrando.