Fe ddaeth datganiad o Neuadd y Sir (Rhyshuw1 CCA3.0)
Fe fydd hi yn hanfodol i bennaeth newydd Ysgol Dyffryn Aman feddu ar y “sgiliau cymwys i fedru cyfathrebu yn Gymraeg”.

Roedd golwg360 yn deall bod yr hysbyseb swydd amdani bellach yn dweud mai ‘dymunol’ nid ‘hanfodol’ yw’r gallu i siarad Cymraeg.

Ond mae Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Graham Griffiths, wedi cysylltu i bwysleisio y bydd yn rhaid i’r pennaeth newydd “feddu ar y sgiliau pridodol i fedru cyfathrebu yn Gymraeg” gyda’r staff a’r disgyblion.

Fe fydd y pennaeth newydd yn cael cyflog o hyd at £108,282 y flwyddyn am reoli’r ysgol ddwyieithog, sydd â 1,580 o ddisgyblion mewn ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg ac sydd yn un o’r ardaloedd ‘ffin’ sy’n cael ei hystyried yn allweddol o ran dyfodol yr iaith.

Ymrwymiad’ at y Gymraeg

Wrth ateb ymholiadau golwg360, cadarnhaodd prif swyddog addysg Sir Gaerfyrddin, Gareth Morgans, fod y swydd ddisgrifiad wedi newid.

“Yn dilyn ymateb siomedig i’r broses recriwtio gyntaf fe wnaeth y Corff Llywodraethu gyda chefnogaeth yr Adran Addysg adolygu’r swydd ddisgrifiad a’r gofynion,” meddai mewn datganiad.

Mae ymrwymiad i’r Gymraeg yn parhau yn elfen allweddol a cheir nifer o ddatganiadau sy’n tanlinelli’r gofyniad yma gan gynnwys, ‘Y gallu i ddatblygu addysg ddwyieithog yn strategol yn unol â gweledigaeth yr ysgol a datblygu’r iaith Gymraeg ymhellach yn unol â chategori Iaith Gymraeg yr Ysgol.’

“Edrychwn ymlaen at benodi arweinydd dymunol, ysbrydoledig a phrofiadol i arwain yr ysgol tuag at y lefel nesaf yn ei datblygiad a sicrhau canlyniadau rhagorol ar gyfer y disgyblion.”

Condemnio

Mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi condemnio’r penderfyniad i ail-hysbysebu swydd prifathro Ysgol Dyffryn Aman gan hepgor y rheidrwydd i fedru gweithio’n Gymraeg.

Dywed Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin: “Mae’n bwysig fod pob ysgol yn y sir yn datblygu tuag at gyflwyno addysg yn Gymraeg, ond ni ddylid cyfyngu strategaeth hybu’r Gymraeg i fyd plant a phobl ifainc yn unig. Ein nod ddylai fod creu cymunedau Cymraeg, nid byd addysg Cymraeg yn unig. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid bod ein prif sefydliadau cyhoeddus – fel ysgolion uwchradd – yn gweithio ac yn gweinyddu’n Gymraeg fel eu prif gyfrwng. Mae’n dilyn wrth gwrs wedyn fod yn rhaid i arweinydd y sefydliad fedru gweithio’n Gymraeg. Mae’r cymal yn y swydd-ddisgrifiad sy’n mynnu’r gallu i “gynnal sgwrs yn Gymraeg” yn hollol annigonol a diraddiol at swydd arweinydd ysgol o’r fath.”