Ar ôl brwydr hir gan rieni, bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir Ddinbych ystyried cadw Ysgol Pentrecelyn ar agor mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Mae adran Addysg y Cyngor wedi cyflwyno argymhelliad i’r cabinet i gadw’r ysgol gynradd Gymraeg ar agor a pheidio ei huno ag Ysgol Eglwysig Llanfair Dyffryn Clwyd i greu ysgol newydd dwy ffrwd.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad lleol, Llŷr Gruffydd, sy’n llywodraethwr ac yn rhiant yn yr ysgol, os bydd y penderfyniad yn cael ei dderbyn, mae’n golygu y bydd yr ysgol bellach yn gallu symud ymlaen.

“Mae’r ymgyrch yma wedi bod yn ymgyrch hir ac anodd gyda chriw bach o rieni yn gorfod mynd â’r Cyngor Sir i her farnwrol,” meddai wrth golwg360.

“Dyw hwnna ddim yn digwydd ar chwarae bach felly dw i’n meddwl nawr byddwn ni i gyd yn gallu edrych ymlaen gyda mwy o optimistiaeth ac edrych i’r hirdymor ynglŷn â thyfu’r ysgol, adeiladu ar y cryfderau sydd gyda ni a mynd i’r afael â heriau mae nifer o ysgolion gwledig yn eu hwynebu.”

Enillodd Ymgyrch Pentrecelyn yr Adolygiad Barnwrol, a dyw hi ddim i weld y bydd y Cyngor yn ceisio herio’r penderfyniad hwnnw.

Dyma’r diweddaraf o heriau barnwrol yn ymwneud ag addysg yn y sir, gydag amcangyfrifon bod y rhain wedi costio tua £140,000 i’r Cyngor. Mae golwg360 wedi gofyn am gadarnhad gan y Cyngor am yr union ffigwr.

Yr argymhelliad

Dan yr argymhelliad fydd yn cael ei roi gerbron y Cabinet bore dydd Mawrth, bydd Ysgol Pentrecelyn, sy’n ysgol Categori 1, yn parhau’n union fel ag y mae.

Bydd Ysgol Llanfair fodd bynnag yn cael adeilad newydd sbon, ond dyw hynny ddim wir yn poeni ymgyrchwyr Pentrecelyn.

“Yn ddelfrydol, byddai rhywun wedi gobeithio cael ysgol ardal newydd sbon oedd yn gategori 1 ond dw i’n meddwl o fod yn ymwybodol bod angen dirfawr am ysgol newydd yn Llanfair, a’r ffaith fod Pentrecelyn eisiau cadw addysg Categori 1, mae hwn yn gyfaddawd dw i’n credu y bydd y ddwy ysgol yn eu croesawu,” ychwanegodd Llŷr Gruffydd.

“Alla’ i ddeall yr awgrym o ran adnoddau adeiladau ond dyw Ysgol Pentrecelyn ddim mewn cyflwr difrifol o bell ffordd, mae’r adeiladau yn gwasanaethu eu pwrpas yn ddigon abl.”

Dafydd v Goliath

“Dw i’n meddwl bod Dafydd wedi llorio Goliath yn yr Uchel Lys achos mi oedd y dyfarniad yn ddamniol.

“Dw i’n meddwl bod e’n cystal cyfaddawd y byddai Sir Ddinbych wedi gallu dod iddo fe mae jyst yn biti ei bod hi wedi cymryd nifer o flynyddoedd, her farnwrol a llawer iawn o ddadlau a chyfarfodydd anodd i gyrraedd y pwynt yna.

“Ond ry’n ni wedi cyrraedd e ac felly edrych ‘mlaen sydd angen ei wneud nawr.”