Mae’r areithiau cloi wedi’u cyflwyno mewn gwrandawiad disgyblu yn erbyn cyn-bennaeth ysgol gynradd yng Ngheredigion, sy’n cael ei chyhuddo o weithredu’n anonest.

Mae Helen Hopkins, 48, yn cael ei chyhuddo o gymryd arian o goffrau Ysgol Bro Sion Cwilt yn Post Mawr, ar sawl achlysur a gadael nodyn IOU i ddweud y byddai’n ei ddychwelyd.

Clywodd y gwrandawiad ei bod wedi cymryd arian oedd wedi’i gasglu ar gyfer prynu llyfrau ac arian o gasgliad Nadolig yr ysgol.

Dywedwyd iddi hefyd ddefnyddio dros £800 o arian oedd wedi’i neilltuo ar gyfer gyrru tripiau tramor er mwyn talu costau dau o’i phlant ei hun ar daith i Iwerddon – cyhuddiad mae hi’n ei wadu.

Mae wedi cyfadde’ saith honiad yn ei herbyn, ond mae hi’n dadlau nad yw’r hyn a wnaeth yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol. Mae hi hefyd yn gwadu cymryd yr arian ar gyfer dibenion personol.

Yr areithiau

Wrth grynhoi ei thystiolaeth ddydd Mercher, dywedodd y cwnsler sy’n cyflwyno’r achos, Cadi Dewi bod tystiolaeth Helen Hopkins “yn frith o dyllau” gan ychwanegu ei bod “yn ei chael ei hun i glymau” wrth geisio cyfiawnhau ei hun.

Ond yn ôl Patrick Llewelyn, sy’n cynrychioli Helen Hopkins, fe gafodd yr arian i gyd ei dalu’n ôl, tan iddi gael ei hatal o’r gwaith ddwy flynedd yn ôl.

“Pa fath o leidr sy’n gadael nodyn IOU?” gofynnodd, cyn ychwanegu, “fy argymhelliad i yw nad oedd yna dwyll.”

Fe fydd pwyllgor addasrwydd i ymarfer yn ystyried a oedd ymddygiad Helen Hopkins yn annerbyniol, ac os mai dyna’r canlyniad, pa gosb a ddylid ei chyflwyno.