Leighton Andrews
Mae Leighton Andrews wedi cael swydd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn gyfrifol am roi Ysgol Busnes y Brifysgol ar flaen y gad ym maes arwain ac arloesi gwasanaethau cyhoeddus.

Collodd cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru sedd y Rhondda i Leanne Wood o Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Meddai’r Brifysgol y bydd y penodiad yn atgyfnerthu statws y Brifysgol fel sefydliad sydd ar flaen y gad o safbwynt ymchwil ym maes arwain ac arloesi gwasanaeth cyhoeddus.

Yn rhinwedd ei swydd fel Athro Ymarfer mewn Arwain ac Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd, bydd Leighton Andrews yn arwain gweithgareddau academaidd ac ymgysylltu sy’n ymwneud â’r maes hwn.

Bydd hefyd yn cyfrannu at ddarpariaeth addysg yr Ysgol ym maes arwain ac arloesi gwasanaethau cyhoeddus.

‘Pleser’

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Leighton Andrews: “Mae’n bleser gen i ymuno â’r tîm talentog ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at ymchwil ac addysgu ar draws amrywiaeth o bynciau academaidd, gan dynnu ar fy mhrofiad a fy ngwaith ymchwil blaenorol.

“Mae modd ehangu addysgu ac ymchwil ym meysydd arwain ac arloesi gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol, yn ogystal ag astudiaethau llywodraethu a pholisi datganoli.”

Roedd Leighton Andrews yn Aelod Cynulliad rhwng 2003 a 2016, ac yn ystod y cyfnod hwn bu’n Ddirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Gweinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ystod ei yrfa, mae hefyd wedi bod yn bennaeth materion cyhoeddus i’r BBC yn Llundain, yn gyfrifol am berthynas y BBC gyda San Steffan a Brwsel, ac yn ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd, lle mae wedi bod yn athro anrhydeddus ers 2004.

Mae hefyd wedi rheoli nifer o fusnesau ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr.

‘Arbenigedd’ 

Meddai’r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae Leighton yn ymuno ag Ysgol Busnes Caerdydd gyda chyfoeth o brofiad ac arbenigedd ym maes llywodraethu, polisïau a datblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd ei benodiad yn helpu i gryfhau ein cyfadran amryddawn ac edrychwn ymlaen at ei groesawu i’r Brifysgol.”

Bydd Leighton Andrews yn dechrau ei swydd yn y Brifysgol ym mis Medi 2016 am gyfnod o dair blynedd.