Mae’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog  yn honni fod Cyngor Gwynedd o dan reolaeth Plaid Cymru wedi methu â cynnal asesiadau trwyadl ac annibynnol er mwyn mesur effeithiau tymor hir cau ysgolion gwledig ar gymunedau Cymraeg.

“Dylai’r ystyriaeth hwn fod yn flaenllaw ym meddyliau’r prif gynghgorwyr a swyddogion wrth drafod dyfodol ysgol,” meddai’r Cynghorydd Gruffydd o Lais Gwynedd.

“Ond er mawr cywilydd methwyd â dirnad canlyniadau cau ysgol ar y gymuned leol.”

Penderfyniad arwyddocaol

Mewn penderfyniad arwyddocaol yn yr Uchel Lys yr wythnos ddiwethaf beirniadwyd Cyngor Sir Ddinbych yn chwyrn am fethu ag ymgynghori’n ddigonol ynglŷn â chau dwy ysgol wledig yn Nyffryn Clwyd drwy beidio â hysbysu’r trigolion lleol o’r “effaith posibl ar y Gymraeg a’r gymuned”.  Roedd y barnwyr o’r farn fod hyn yn “anghyfreithlon ac annoeth”.

“Er nad yw’r amgylchiadau’n union yr un fath ni wnaed hyn yn ystod ymgynghoriadau ynglŷn â dyfodol ysgolion gwledig Gwynedd ychwaith ,” meddai Alwyn Gruffydd.

“Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth gan Gyngor Gwynedd i hyfywdra cymunedau sy’n asgwrn cefn i’r Gymraeg a rôl ganolog yr ysgol wledig yn nyfodol y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.”

Mae Strategaeth Iaith Cyngor Gwynedd ei hun yn amcanu at sicrhau cynnydd o 5% yng nghanran y boblogaeth sy’n gallu siarad y Gymraeg erbyn 2021 ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at gynyddu nifer sy’n siarad yt iaith i filiwn o bobl erbyn 2050.

“Does gan yr un ohonynt y siawns leiaf o lwyddo heb ymgyrch wleidyddol, cymdeithasol ac economaidd ar y cyd i warchod a hybu cymunedau Cymraeg ei hiaith,” meddai wedyn.

“Yr ysgol yw calon y cymunedau hyn yn ogystal â darparu addysg o’r radd flaenaf – a gwerth am arian.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb i sylwadau Alwyn Gruffydd.