Mae’r Uchel Lys heddiw wedi atal penderfyniad i gau Ysgol Pentrecelyn ger Rhuthun, gan ddweud fod Cyngor Sir Ddinbych yn “ddryslyd anobeithiol”.

Dyma’r tro cyntaf erioed i lys ymyrryd mewn cau ysgol oherwydd methiant i asesu’n ddigonol beth fyddai effaith cau’r ysgol ar yr iaith Gymraeg, ac mae yn cael ei ddisgrifio fel un hanesyddol gan ymgyrchwyr oedd eisiau cadw’r ysgol ar agor.

Yn ogystal, dyma’r eildro yn unig ers i’r Uchel Lys gael ei sefydlu yn 1875, i rywun gyflwyno ei achos i’r llys yn yr iaith Gymraeg.

Yn y dyfarniad, mae’r Cyngor wedi cael ei feirniadu gan y llys am asesiad effaith ieithyddol anghyfreithlon, ymgynghori anghyfreithlon a “gwahaniaethau sylweddol” rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r un dogfennau cyhoeddus.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd, sy’n riant-lywodraethwr ym Mhentrecelyn, bod y dyfarniad yn codi cwestiynau dwys ynghylch methiant Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i ymyrryd yn y broses.

Fe gafodd yr actor byd enwog Rhys Ifans  ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn, ac fe ddywedodd fod y newyddion yn un “gwych iawn” i’r ysgol ac i “addysg Gymraeg yn gyffredinol”.

Ychwanegodd mewn neges fideo ar dudalen Facebook Ymgyrch Pentrecelyn ei fod yn gobeithio y bydd Cyngor Sir Dinbych yn cymryd sylw o’r dyfarniad a “chefnogi addysg Gymraeg ymhellach yn y dyfodol”.

Cefndir

Yn 2015, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych gynlluniau i gau Ysgol Pentrecelyn, ysgol bentref bach gyda rhyw 56 o ddisgyblion Cymraeg eu hiaith ger Rhuthun, a’i uno gyda ysgol ddwyieithog mwy yn yr un ardal, Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, a hynny mewn adeilad newydd ar safle gwahanol.

Y bwriad oedd y byddai’r ysgol newydd yn ysgol ddwyieithog, nid ysgol cyfrwng Cymraeg, ac y byddai’r athro yn newid yn  gyson rhwng y Gymraeg a’r Saesneg gydol y dydd i ddarparu ar gyfer y ddau “ffrwd ieithyddol” o fewn yr un dosbarth.

Roedd yr ysgolion i fod i gau fis Awst y flwyddyn nesaf.

Asesiad Effaith ar y Gymraeg a’r Gymuned

Mae Côd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn dweud fod yn rhaid cynnal ‘Asesiad Effaith ar y Gymraeg a’r Gymuned’ fel rhan o unrhyw gynllun i gau ysgol cyfrwng Cymraeg.

Yn yr achos hwn, yn hytrach nag asesu beth fyddai effeithiau ieithyddol a chymunedol gwir gynllun y Cyngor i agor ysgol newydd ar safle newydd, effeithiau’r cynllun ‘interim’ yn unig i ‘uno’r’ ddwy ysgol ar y safleoedd presennol a aseswyd. Yn ystod y cymal dros dro hwn, byddai’r disgyblion yn aros yn eu hadeiladau ysgol presennol, heb newid sylweddol yn natur y dysgu.

Daeth yr asesiad hwn i’r casgliad mai dim ond effeithiau ieithyddol a chymunedol bychain y byddai’r cynllun ‘interim’ hwn yn ei gael.

Yn yr adolygiad barnwrol cyntaf o benderfyniad i gau ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg, heriodd Ymgyrch Pentrecelyn fod penderfyniad y Cyngor i roi’r cynllun ‘interim’ hwn ar waith heb ystyried effeithiau ieithyddol a chymunedol y cynllun yn ei gyfanrwydd, sef i uno’r ddwy ysgol ar un safle, yn anghyfreithlon.

Roedd yr ymgyrch hefyd yn dadlau fod ymgynghoriad Cyngor Sir Ddinbych yn aneglur ac yn anghyson o safbwynt ei hyd a’i led, a’i fod felly wedi methu â chyrraedd y safonau sylfaenol ar gyfer ymgynghoriad cyfreithlon.

Dyfarniad

Cafodd yr achos ei benderfynu gan ddau farnwr Uchel Lys – Mr Ustus Hickinbottom a’i Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC. Y bore yma, cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi’n ffurfiol yn Llys y Goron Wrecsam drwy gyfrwng cyswllt fideo.

Roedd y llys yn feirniadol iawn o brosesau’r Cyngor, gan gynnwys bod yr asesiad yn “anghyfreithlon yn ogystal ag annoeth” a bod dogfen ymgynghori’r cyngor yn “anobeithiol o ddryslyd”.

Meddai’r ddau farnwr: “O ystyried bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru (gweler adran 1(1) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1)), mae’n anffodus iawn ar y lleiaf fod gwahaniaethau sylweddol rhwng fersiynau’r ddwy iaith o’r dogfennau hyn. Mae gan y sawl sy’n darllen dogfen o’r fath yn y naill iaith neu’r llall yr hawl i ddisgwyl nad oes unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddwy iaith.”

Ymateb Ymgyrch Pentrecelyn

Dywedodd Nia Môn, rhiant yn cynrychioli Ymgyrch Pentrecelyn: “Mae hwn yn ganlyniad haneysddol, yn sicrhau nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn cael israddio categori iaith ysgol ein plant yn dilyn proses mor ddiffygiol, yn llawn camgymeriadau sylfaenol.

“Mae wedi bod yn frwydr hir a chostus, ond nid ein bwriad wrth gyfreitha oedd gwarchod buddiannau ein plant ni’n unig; yr oeddem hefyd yn ceisio amddiffyn addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan.

“Mae’r Cyngor wedi gwastraffu degau o filoedd o bunnau o arian cyhoeddus yn ceisio amddiffyn ei benderfyniad ‘anobeithiol’ yn y llys; mae ganddo waith mawr i’w wneud i adennill hyder y rhieni a’r disgyblion a gafodd eu amharchu yn y broses hon.”

Dywedodd Gwion Lewis, bargyfreithiwr yn Landmark Chambers, Llundain, a gynrychiolodd Ymgyrch Pentrecelyn yn llwyddiannus yn y llys: “Dyma’r tro cyntaf i rywun gychwyn achos cyfreithiol er mwyn ceisio rhwystro ysgol cyfrwng Cymraeg rhag cael ei chau. Bu’n werth yr ymdrech gan fod y llys wedi cytuno fod sawl agwedd ar benderfyniad y Cyngor yn anghyfreithlon; mae’r llys wedi datgan, felly, na ellir cau’r ysgol fel y bwriedid.”

Ymateb Llŷr Gruffydd

Dywedodd Llŷr Gruffydd, rhiant-lywodraethwr ym Mhentrecelyn ac Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru: “Mae’r dyfarniad yma wedi dangos yn glir fethiannau difrifol Cyngor Sir Ddinbych i lawn ystyried canlyniad eu hargymhellion ar y Gymraeg.

“Mae’r broses yn codi cwestiynau dwys ynghylch methiant Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i ymyrryd yn y broses. Heblaw am ddycnwch ac ymroddiad grŵp bychan o rieni a chefnogwyr Ysgol Pentrecelyn byddai argymhellion Sir Ddinbych wedi cael eu gweithredu, argymhellion oedd yn seiliedig ar ymgynghoriad anghyfreithlon ac asesiad iaith anghyfreithlon.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar eu rhethreg o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy sicrhau fod Awdurdodau Addysg Lleol yn gwneud mwy i gryfhau’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg.”

Ymateb Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid yw honiadau Llyr Gruffydd yw hollol gywir. Dylai ef ‘wybod yn iawn y gall Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn cynigion awdurdod lleol mewn sefyllfaoedd cyfyngedig yn unig, oherwydd deddfwriaeth yng Nghymru, nad oedd yn gymwys yn yr achos hwn.

“Pan fydd cynigion yn effeithio ar ysgolion sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i asesu’r effaith ar yr iaith Gymraeg.

“Rydym newydd gyhoeddi ein cynlluniau i dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg i un miliwn erbyn 2050 ac i ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, a chynyddu nifer y bobl sy’n dysgu ac yn gallu defnyddio’r iaith gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Galwn ar bobl ledled Cymru i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar y cynlluniau hyn. ”

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Fe dderbyniodd y Comisiynydd ymholiadau gan unigolion yn mynegi pryder am gynlluniau’r Cyngor, ac fe gysylltodd â’r Cyngor yn ystod y cyfnod ymgynghori yn 2015 a chyn hynny.

“Ers mis Ebrill 2016, mae Cyngor Sir Ddinbych ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru o dan ddyletswydd statudol yn unol â safonau’r Gymraeg i ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar y Gymraeg.”