Prifysgol Aberystwyth sydd wedi dod i’r brig o blith prifysgolion Cymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl arolwg blynyddol.

Fe ddaeth y brifysgol hefyd yn un o’r deg uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda 92% o’i myfyrwyr yn eu trydedd flwyddyn yn fodlon â’r brifysgol.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Prifysgol Aberystwyth wedi dringo dros 100 o lefydd ers i’r arolwg cael ei gynnal y llynedd.

Mae’n newyddion da i’r Brifysgol ar ôl rhai blynyddoedd anodd dros helbul cau ac yna addo ail-agor Neuadd Pantycelyn, llithro yn nhablau prifysgolion a honiadau o fwlio gan staff.

Prifysgolion a cholegau eraill

Daw’r ffigurau diweddaraf o’r Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr, sy’n gofyn i fyfyrwyr yn eu trydedd flwyddyn pa mor fodlon ydyn nhw gyda’u hamser yn y brifysgol.

Mae hefyd yn ystyried colegau addysg bellach, a Choleg Merthyr Tudful a ddaeth yn gyntaf o ran y colegau yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr, gyda’r un sgôr ag Aberystwyth o 92%.

Roedd 90% o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot yn fodlon â’u sefydliadau yn gyffredinol.

Y brifysgol a berfformiodd waethaf o brifysgolion Cymru oedd Prifysgol De Cymru, gyda lefel boddhad o 81% ymhlith y myfyrwyr.

Ymhlith y colegau addysg bellach, Coleg Sir Benfro oedd â’r nifer lleiaf o fyfyrwyr yn fodlon, gyda sgôr o 67%.

Adran Gymraeg Aber ar y brig

Yn Aberystwyth, daeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r Ysgol Gelf ar frig eu meysydd, gyda phob un o fyfyrwyr y ddwy adran yn dweud eu bod yn fodlon ag ansawdd yr addysgu.

“Mae profiad myfyrwyr wastad wedi bod wrth wraidd popeth a wnawn ni yma yn Aberystwyth, ac mae’r canlyniadau hyn yn dangos faint o ymdrech a wneir i sicrhau bod y profiad hwnnw yn un ardderchog,” meddai Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan.

“Rydym wedi buddsoddi yn ein hadnoddau campws, ond mae pwyslais hefyd ar addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn ansawdd yr addysgu yma.”

“Adeiladu ar welliannau”

Dywedodd Rhun Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth bod angen i’r brifysgol “adeiladu ar y gwelliannau hyn”.

“Mae’r canlyniadau hyn yn ardderchog, ac mae’n wych gweld Prifysgol Aberystwyth ar y brig o ran boddhad myfyrwyr yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n arbennig o braf hefyd gweld bod cwrs israddedig Cymraeg Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth wedi cael canlyniadau gwell yn yr Arolwg eleni na’r un adran arall o’i bath, gan gynnwys Adran Astudiaethau Celtaidd Caergrawnt.

“Rhaid sicrhau nawr bod y Brifysgol yn adeiladu ar y gwelliannau hyn, ac mi fydd UMCA yn parhau i weithio dros fuddiannau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth.”

Dyma’r canlyniadau llawn

Prifysgolion

Prifysgol Aberystwyth – 92%

Prifysgol Abertawe – 90%

Prifysgol Bangor – 90%

Prifysgol Caerdydd – 87%

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – 86%

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant – 84%

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam – 84%

Prifysgol Metropolitan Caerdydd – 83%

Prifysgol De Cymru – 81%

Colegau Addysg Bellach

Coleg Merthyr Tudful – 92%

Grŵp Llandrillo Menai – 91%

Coleg Castell-nedd Port Talbot – 90%

Coleg y Cymoedd – 87%

Coleg Gwent – 85%

Coleg Pen-y-bont – 83%

Coleg Caerdydd a’r Fro – 69%

Coleg Sir Benfro – 67%